Cyhoeddi dilyniant i ffilm Twin Town

  • Cyhoeddwyd
Twin Town
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Ifans a'i frawd Llyr oedd y prif gymeriadau yn y ffilm wreiddiol

Mae'r gwaith wedi cychwyn ar ddilyniant i ffilm Twin Town meddai'r cyfarwyddwr.

Fe roddodd Kevin Allen lun o fraslun sgript ar Facebook.

Dywedodd: "Roedd yn rhaid i rai ohonom ni weithio dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd."

Dywedodd hefyd bod disgwyl i'r gwaith ffilmio ddechrau ym mis Mehefin, o bosib yn ardal Llanelli.

Ym mis Rhagfyr fe ddywedodd un o actorion Twin Town, Rhys Ifans fod yna "ffilm Gymraeg" ar y gweill.

Cafodd y ffilm, oedd wedi ei lleoli yn Abertawe, ei chyhoeddi bron i 20 mlynedd yn ôl.

Mae Mr Allen, gafodd ei fagu yn y ddinas, wedi dweud yn y gorffennol ei fod eisiau ail ymweld â rhai o'r cymeriadau yn y ffilm wreiddiol.