Twin Town: Ble maen nhw nawr?
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i hyd at 5,000 o ffans 'Twin Town' heidio i Abertawe ar nos Iau 3 Awst i ddathlu 20 mlynedd ers rhyddhau'r ffilm eiconig. Bydd y ffilm yn cael ei dangos ar sgrin fawr ym Mharc Singleton.
Mi wnaeth hynt a helynt meibion 'Fatty' Lewis greu cynnwrf yn y sinemâu ar hyd a lled y DU nôl yn 1997. Ers hynny mae rhai o aelodau'r cast wedi bod yn ymgynnull yn achlysurol i ddarllen y sgript o flaen rhai o ffans mwyaf ffyddlon y ffilm. Roedd 'na sôn yn gynharach eleni am ddilyniant i'r ffilm hefyd.
Ond ble mae rhai o aelodau'r cast gwreiddiol erbyn hyn?
Rhys Ifans (Jeremy Lewis)
Mae gyrfa yr actor o Rhuthun wedi mynd o nerth i nerth ers ymddangos yn Twin Town. Ar ôl ymddangos yn ei drôns yn Notting Hill yn 1999 aeth o yn ei flaen i ennill BAFTA am ei bortread o'r digrifwr Peter Cook yn y ffilm deledu Not Only But Always (2004). Ers hynny mae o wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau gan gynnwys portread o'i ffrind, y diweddar Howard Marks, yn Mr Nice (2010), y 'dyn drwg' Dr Curt Connor yn The Amazing Spiderman (2012) ac yn fwy diweddar fel Corbin O'Brian yn Snowden (2016). Cyn y Dolig roedd o nôl yn y theatr i bortreadu'r Ffŵl yn y cynhyrchiad o King Lear yn yr Old Vic yn Llundain.
Llŷr Ifans (Julian Lewis)
Er gwaetha'r awgrym yn nheitl y ffilm, brodyr ydy'r Lewisiaid, nid efeilliaid. Yn y byd go iawn mae Llŷr dair blynedd yn iau na Rhys ei frawd mawr. Ers Twin Town mae Llŷr wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar rai o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C gan gynnwys Pengelli, Rownd a Rownd ac Y Dreflan. Roedd o a Rhys hefyd yn y ffilm O Dan y Wenallt (2015) i ddathlu canmlwyddiant Dylan Thomas. Dros y Dolig camodd Llŷr i 'sgidiau Syr Wynff ap Concord y Bos yng nghynhyrchiad Theatr Bara Caws - Raslas Bach a Mawr.
Huw Ceredig (Fatty Lewis)
'Fatty' oedd tad y bechgyn yn y ffilm. Roedd y diweddar Huw Ceredig yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin cyn iddo ymddangos yn y ffilm. Bu'n chwarae rhan Reg Harries yn Pobol y Cwm am 29 o flynyddoedd. Mi wnaeth ymddangos hefyd mewn cyfresi poblogaidd yn Saesneg fel Emmerdale, Z Cars a Heartbeat. Roedd ei lais yn gyfarwydd i blant Cymru fel llais Clob yn y cartŵn Superted ac fel Handel, brawd Jeifin Jenkins, yn Hafoc. Bu farw ym mis Awst 2011.
William Thomas (Bryn Cartwright)
Dyn busnes gyda chefndir 'lliwgar' ydy Bryn yn y ffilm ac mae'r brodyr Lewis yn ddraenen yn ei ystlys. Fe wnaeth yr actor ymddangos gyda Rhys Ifans yn Mr Nice. Roedd o hefyd yn aelod o gast y ffilm Gymraeg, Solomon a Gaenor (1999). Mae wedi ymddangos mewn llu o gyfresi drama a chomedi yn y Gymraeg a'r Saesneg dros y blynyddoedd. Roedd yn aelod o gast gwreiddiol Pobol y Cwm a fo oedd y gweinidog wnaeth briodi Ray a Hayley Cropper yn Coronation Street. Roedd o hefyd yn aelod rheolaidd o'r gyfres Torri Gwynt gyda Dewi Pws. Mae o hefyd yn ymddangos mewn golygfa sy'n cael ei hystyried gan nifer ymhlith un o'r golygfeydd doniolaf erioed mewn cyfres deledu. Fo sy'n agor y bar y mae Del Boy yn syrthio trwyddo yn Only Fools and Horses.
Dougray Scott (Terry Walsh)
Dydy'r Albanwr ddim wedi bod yn brin o waith ers Twin Town. Mae'n chwarae un o ddau dditectif llwgr sy'n ceisio helpu Bryn Cartwright i ddial ar y brodyr Lewis. Cafodd Scott ei ddewis yn bersonol gan Tom Cruise ar gyfer Mission: Impossible 2. Roedd 'na ddyfalu ar un adeg y byddai'n olynu Piers Brosnan fel y James Bond newydd hefyd. Ers hynny mae o wedi ymddangos yn Doctor Who a phortreadu Matt Busby, cyn reolwr Manchester United yn United, ffilm deledu yn olrhain hanes trychineb Munich yn 1958. Yn fwy diweddar fe ymddangosodd gyda Liam Neeson yn Taken 3 (2015).
Dorien Thomas (Greyo)
Ditectif llwgr oedd Greyo yn y ffilm ond yn llawn rhwystredigaeth wrth i'r brodyr Lewis ennill y blaen arno fo a Terry. Fel mae'n digwydd, fel ditectif preifat y daeth Dorien Thomas i'r amlwg gyntaf i wylwyr S4C. Fo oedd y 'partner' yn y gyfres Bowen a'i Bartner yn nyddiau cynnar y sianel. Bu'n chwarae rhan Graham Francis yn Pobol y Cwm hefyd ac roedd yn amlwg mewn nifer o gynyrchiadau eraill. Bu farw o drawiad ar y galon yn 55 oed yn 2012.
Di Botcher (Jean Lewis)
Mam y brodyr ydy Jean yn y ffilm. Ers hynny mae'r actores wedi bod yn wyneb a llais cyfarwydd ar sawl cyfres ddrama ar y teledu a radio. Mae hi wedi gwneud ei henw fel actores gomedi gan ymddangos yn Little Britain a Come Fly with Me gyda David Walliams a Matt Lucas. Roedd hi hefyd yn gymeriad rheolaidd yn y gyfres High Hopes. Mae hi wedi ennill rhagor o edmygwyr gyda'i phortread o Aunty Brenda yn y gyfres gomedi Stella ar Sky1. Yn ddiweddar fe ymddangosodd yng nghyfres newydd Silent Witness.