Y Wyddfa yn 'doiled cyhoeddus ac yn llawn ysbwriel'
- Cyhoeddwyd
Mae ymwelwyr yn cael eu cyhuddo o ddefnyddio'r Wyddfa "fel toiled" ac yn gadael ysbwriel ar y mynydd.
Mae ymgyrchwyr yn galw am fwy o wardeiniaid ar y mynydd ac yn disgrifio cyflwr y copa yn "ofnadwy".
Mae Cymdeithas Eryri yn dweud fod angen gwneud mwy.
"Mae'r ysbwriel i weld yn gwaethygu," meddai un cerddwr a pherchennog siop awyr agored, Andrew Ennever o Ddolgellau.
"Mae pobl yn dweud mai bai'r caffi ar y copa, neu mai defnyddwyr y trên sydd ar fai, ond tydi'r ddau wasanaeth yna ddim ar gael yn ystod y gaeaf.
"Y cerddwyr sydd ar fai, maen nhw'n cerdded i'r copa, yn mwynhau'r golygfeydd ac yn gadael eu sbwriel ar ôl." meddai Mr Ennever.
Mae Mr Ennever yn gobeithio gweithio gyda siopau awyr agored eraill yn yr ardal i geisio lansio ymgyrch gwrth ysbwriel ar y mynydd.
"Dylai bod yna fwy o arwyddion ar hyd y llwybrau. Dwi ddim yn credu y gwneith biniau weithio, neith hynny ysgogi pobl i adael mwy o ysbwriel," meddai.
Defnyddio'r Wyddfa 'fel toiled'
Mae Cymdeithas Eryri yn cynnal teithiau codi ysbwriel ar y Wyddfa ac mae 'na gynlluniau i gyflwyno mwy o arwyddion yn y meysydd parcio ac ar hyd y prif lwybrau.
Dywedodd Cyfarwyddwr y gymdeithas, John Harold: "Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny sydd yn mynd i fyny'r Wyddfa yn ymddwyn yn gyfrifol ond dydyn ni heb ddatrys y broblem yn iawn eto".
Mae Steffan Roberts yn cadw caffi Pen-y-Ceunant Isaf yng nghysgod y Wyddfa. Dywedodd nad ydi o'n gwerthu bwyd i'w fwyta tu allan i'r siop er mwyn osgoi cyfrannu at y broblem ysbwriel.
"Mae'n un o brif atyniadau Cymru ac mae'n dorcalonnus bod pobl yn camdrin y Wyddfa fel hyn,
"Y broblem fwyaf ydi pobl yn gneud eu busnes ac yn ei ddefnyddio fel toiled cyhoeddus. Dwi'n credu dylai'r Parc Cenedlaethol gyflogi mwy o wardeiniaid yn hytrach na defnyddio gwirfoddolwyr.
"Does 'na neb i ddweud wrth bobl sut i ymddwyn ar y mynydd," meddai.
Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am ymateb gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.