Yr Hen Galan
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi hen arfer â dathlu'r flwyddyn newydd ar 1 Ionawr, ond mae un ardal yng Nghymru yn dal i ddathlu traddodiadau'r hen galendr Iwlaidd.
Roedd y calendr Gregoraidd newydd yn amhoblogaidd ac felly penderfynodd ardal Cwm Gwaun yn Sir Benfro gadw at draddodiad yr hen galendr a dathlu'r Hen Galan ar 13 Ionawr.
Yn y llun uchod o gasgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dolen allanol, mae rhai o blant yr ardal yn canu Calennig adeg Hen Galan 1961.
Nôl yn Ionawr mi apeliodd Cymru Fyw am wybodaeth am y plant yn y llun ac mi gysylltodd Rita Davies:
"Fi yw'r ferch benfelen ar y chwith gyda ngwallt mewn ponytail, rhyw naw a hanner oeddwn i ar y pryd ac o'n i'n arfer mynd i ganu calennig pob Hen Galan. O'n i'n dechre' am saith y bore ac yn mynd 'mlaen tan rhyw bump y prynhawn ac yn joio mas draw.
"Ifor a Gwyn Davies, Eirian a Sally Vaughan, Menna James ac Ionwy Thomas yw'r plant eraill. Ry'n ni wedi cael ein tynnu fel grŵp ond nid mewn grŵp o'n i'n mynd i ganu ond fel unigolion."
Ychwanegodd Ionwy Thomas (Ionwy Thorne erbyn hyn) ragor o fanylion am leoliad y llun:
"O'n ni tu fas Tŷ Bach, Cwm Gwaun, tŷ fy nhadcu. Cafodd y llun ei dynnu ar gyfer Y Cymro. Rwy'n sefyll wrth ochr Rita (yn gwisgo fy wellingtons), yna mae Ifor (prin y gwelwch chi ei wyneb y tu ôl i mi), diweddar fab Bessie Davies sydd yn cadw tafarn Cwm Gwaun (Cawn ragor o hanes Bessie yn y fideo isod).
"Sally Vaughan yw'r ferch fach yn y sbectol. Menna James sydd wrth ei hochr hi ac yna y diweddar Eirian Vaughan (chwaer Sally), a John Morris a Gwyn Davies (brawd Ifor) yw'r ddau fachgen bach ar y pen."
Hoffech chi brofi eich gwybodaeth o arferion Calan Cymru? Beth am roi cynnig ar gwis Calan Cymru Fyw?