Ateb y Galw: Carys Eleri

  • Cyhoeddwyd
Carys Eleri

Carys Eleri sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Llwybr Llaethog yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Bod yn y cot yn ein tŷ cyntaf ym Mhorthyrhyd. Cofio twlu dummy allan o'r cot mewn ystafell borffor.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Fi 'run oedran â Macaulay Culkin. Pan ddath y ffilm Home Alone mas, o'n i ishe tyfu lan a'i briodi fe.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Sai'n cywilyddio yn rhwydd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe mewn rihyrsal canu. Ma'r medley o ganeuon ni'n rihyrso ar gyfer ein gig nesa' yn eitha' emosiynol.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wrth gwrs.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Sain Ffagan. Fel merch o'r wlad, fi'n caru dianc i'r hafan yma tu allan i Gaerdydd. Fi'n dwli cal chats da'r bobol sy'n gofalu am y tai a bod o amgylch y tanau sy'n llosgi ynddyn nhw. Ma'r gerddi mor hyfryd yno.

Mae Carys yn dwli ar gael 'chats' gyda'r tywyswyr yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain FfaganSAIN FFAGAN
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys yn dwli ar gael 'chats' gyda'r tywyswyr yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fi'n CARU cymdeithasu felly ma' hwn yn gwestiwn anodd iawn. Ond es i i wlad yr Iâ ar gyfer Nos Galan eleni gyda chriw o 14 o bobol. Odd y Northern Lights mas yn Reykjavik y noson honno a sai byth 'di gweld cyment o dân gwyllt yn fy myw - o'n i ger y traeth ac odd y cwmni mor wych - wyth oedolyn a chwech plentyn.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cariadus, hwylus a sili.

Beth yw dy hoff lyfr?

Cyfres Terry Pratchett am wrach o'r enw Tiffany Aching. Fi ar yr un dwetha nawr, a hwnnw odd y llyfr dwetha' iddo fe ysgrifennu cyn ei farwolaeth.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Michael Jackson a Mamgu

Mae Carys wedi ennill canmoliaeth am chwarae Myfanwy'r Ficer yn y gyfres Parch ar S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys wedi ennill canmoliaeth am chwarae Myfanwy'r Ficer yn y gyfres Parch ar S4C

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd. Bues i'n ddigon ffodus i ddal y dangosiad dwetha' yn Chapter, Caerdydd wthnos dwetha'. Licen i weld hi eto nawr 'mod i yn gwbod siwt mae'n gorffen.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Nofio yn y môr yn y nos.

Dy hoff albwm?

Bad gan Michael Jackson. Ma' bachgen bach fy ffrind i newydd droi yn wyth oed ac yr un mor obsessed da fe ag o'n i yr oedran 'na.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - be fyddai'r dewis?

Cheese board.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Madonna. Neu Meryl Streep.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Tara Bethan