Cyn-faer Y Bermo yn gadael Cymru wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae cyn faer tref Y Bermo a'i gymar wedi penderfynu symud i fyw i'r Almaen yn sgil Brexit.
Mae'r cwpl priod, sydd wedi bod yn rhedeg busnes gwely a brecwast yn y dref, yn y broses o werthu eu cartref ac yn gobeithio symud ym mis Mawrth.
Fe wnaeth John Sam Jones a'i ŵr o'r Almaen y penderfyniad ar ôl i Jupp Korsten ddechrau teimlo yn anghyfforddus yng Nghymru yn dilyn y bleidlais.
"'O'dd o'n benderfyniad eithaf syml a deud y gwir," meddai Mr Jones, sydd wedi dychwelyd i'r ardal lle cafodd ei fagu ers 10 mlynedd.
"Mae o'n teimlo'n anghyfforddus yma. O'n i'n teimlo rhywfaint o frad a deud y gwir fod Cymru - o'n i wedi disgwyl ella' bysa' rhywrai yn Lloegr yn pleidleisio yn erbyn - ond o'n i wedi synnu bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr undeb.
"Ac am gyfnod byr ro'n i yn teimlo yn eithaf dig."
'Ddim yn teimlo'r un croeso'
Roedd y ddau wedi trafod symud i fyw i'r cyfandir ar ôl ymddeol ymhen ychydig flynyddoedd.
Ond yn yr wythnosau cyn y refferendwm fe newidiodd pethau i Mr Korsten pan oedd mewn archfarchnad yn Y Bermo yn disgwyl i dalu am ei nwyddau.
"Roedd 'na ddadl wedi codi ynglŷn â'r refferendwm a sawl un yn y llinell yn dweud eu bod nhw am bleidleisio i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd oherwydd y mewnfudwyr.
"A Jupp yn herio nhw ac yn dweud: 'Pwy ydach chi yn gwybod sydd yn fewnfudwr yma yn 'Bermo? Does 'na fawr o fewnfudwyr yma. Dw i'n un ohonyn nhw,' medda fo, 'wedi dod yma o'r Almaen'.
"A hwythau yn dweud: 'Ia, wel, wrth gwrs 'dan ni ddim yn sôn amdanach chdi, ti'n ocê. Ond 'dan ni ddim isio Mwslemiaid a 'dan ni ddim isio pobl dduon yn dod yma i fyw.'"
Mae'n dweud bod ei ŵr, sydd wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg, wastad wedi teimlo croeso yn yr ardal tan yn ddiweddar.
"Y pwynt ydy unwaith mae rhywun yn dechrau teimlo yn anghyfforddus, fedrith rhywun ddim jest switchio'r teimlad i ffwrdd. Hyd heddiw mae o'n deud dydy byw yma ddim yr un fath. Mae 'na deimlad gwahanol, mae'r ansawdd wedi newid. 'Dwi'm yn teimlo'r un croeso'."
Teimladau cymysg sydd gan Mr Jones wrth feddwl am gefnu ar ei famwlad. Mae'n "edrych ymlaen" i symud i bentref Jupp a dyw byw dramor ddim yn brofiad newydd iddo.
Ond mae yna "elfen o dristwch hefyd" am fod teulu ei dad wedi byw yn Y Bermo ers 300 o flynyddoedd.
"Mi fydd y llinell yma yn torri unwaith fydda' i yn gadael 'Bermo, ond dyna ydy bywyd mae'n debyg."
Mae nifer o drigolion lleol wedi dweud y bydd yna golled ar eu holau am fod y ddau yn weithgar yn y gymuned a John Sam Jones ei hun wedi bod yn faer ac yn gynghorydd yn y dref.
Ac mae rhai sydd hefyd wedi siomi gyda chanlyniad Brexit wedi ceisio ei ddarbwyllo y dylai aros ac ymladd am yr hyn mae'n credu ynddo.
'Brad'
Ond dydy o ddim yn adnabod Cymru heddiw, meddai, nac yn "gwybod beth i frwydro drosto".
"Mae'r siom wedi mynd mor ddwfn - oeddwn i mewn cyngerdd Nadolig ac ar ddiwedd y cyngerdd dyma nhw yn dechrau canu'r anthem Gymraeg. O'n i methu canu'r anthem.
"Dwi ddim yn bleidiol i 'ngwlad erbyn hyn," meddai.
"Dwi'n teimlo bod y wlad wedi bradychu pobl fel fi. Ella 'na chwerwder ydy hynny ond dyna'r teimlad sydd gen i ar hyn o bryd.
"Dwi ddim yn gweld beth fyswn i yn brwydro drosto fo ym myd Brexit."
'Brexit yn dda i Gymru a'r diwydiant saethu', medd cwmni o Wynedd,