'Brexit yn dda i Gymru a'r diwydiant saethu'

  • Cyhoeddwyd
Helfa

Bydd Brexit yn beth da i Gymru a'r diwydiant saethu, medd rheolwyr helfa adar ger Pwllheli.

Mae helfa Bodfuan yn magu miloedd o ffesantod a phetris bob blwyddyn, ac fe ddaw bobl o bob rhan o wledydd Prydain a'r cyfandir i'w hela.

Mae 10 o bobl yn cael eu cyflogi fel rhan o'r busnes, yn magu a gofalu am adar ac yn trefnu'r saethu ac ati.

Yn ôl Maldwyn Williams, llefarydd ar ran Helfa Bodfuan, mae'r helfa'n cyfrannu dros £1.5m i'r economi leol, wrth i bobl sy'n dod i hela yno aros mewn gwestai lleol a defnyddio tacsis a thafarndai lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Maldwyn Williams yn dweud bod mwy o bobl yn dod o dramor ers pleidlais Brexit.

"Dwi'n meddwl fod y bleidlais Brexit wedi gwneud lles," medd Mr Williams.

"Mae arwerthiant wedi codi heb os nac onibai ar ôl y bleidlais.

"Mae na dipyn fwy o bobl dramor yn dod yma rwan i saethu, a hynny oherwydd fod y bunt yn wan.

"Dwi hefyd yn meddwl bod 'na lot mwy o bobl yn aros yma ym Mhrydain Fawr yn hytrach na mynd dramor i saethu, am ei fod yn costio mwy i fynd dramor'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jono Garton yn meddwl y bydd Cymru a'r diwydiant saethu'n elwa o Brexit

Dywedodd Jono Garton, perchennog helfa Bodfuan, ei fod o'n credu y byddai'r diwydiant saethu yng Nghymru yn gwneud yn well y tu allan i reolau'r Undeb Ewropiaidd ynglyn â saethu.

"Mi allwn ni greu ein rheolau ein hunain i gyflenwi ein gofynion ein hunain", meddai.

O ran helfa Bodfuan, maen nhw'n dweud eu bod nhw'n edrych ymlaen yn hyderus at y dyfodol.

Fe fyddan nhw'n dechre helfa arall ger Harlech gyda hyn, ac yn gobeithio cyflogi dau neu dri yn ychwanegol.

Mae Cymru Fyw hefyd yr wythnos hon wedi clywed gan gwpl sy'n anhapus gyda Brexit, ac o ganlyniad, wedi penderfynu gadael Cymru a symud i'r Almaen.