Mwy yn mynd i'r ysbyty oherwydd ffliw yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
brechiad ffliw

Mae pobl bregus yn cael eu hannog i gael brechiad rhag y ffliw, wrth i ffigyrau ddangos cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi mynd i'r ysbyty gyda'r feirws.

Roedd bron i 800 wedi cael diagnosis gan feddygol teulu am symptomau'r ffliw yn y pythefnos dros y Nadolig gyda 195 wedi bod yn yr ysbyty y gaeaf hwn.

Roedd hyn yn cynnwys 25 o bobl gafodd gofal dwys, ac roedd sawl achos difrifol mewn wardiau ysbytai a chartrefi gofal.

Menywod beichiog a phobl gyda anhwylderau iechyd tymor hir sydd mewn perygl fwyaf.

Yn ôl Dr Richard Roberts, un o benaethiaid Iechyd Cyhoeddus Cymru: "I ni'n disgwyl i'r feirws i barhau i gynyddu yng Nghymru am chwech i wyth wythnos, ac am hirach ar lefau is, felly mae'n hanfodol i sicrhau bod y rhai sydd angen y brechiad yn cael hwnnw mor fuan ag sy'n bosib er mwyn eu hamddiffyn am weddill y tymor."