Dim disgwyl casgliadau ymchwiliad Tawel Fan tan yr haf

  • Cyhoeddwyd
Tawel Fan

Mae'n bosib na fydd yr ymchwiliad i uned iechyd meddwl yn Sir Ddinbych yn dod i gasgliadau tan yr haf.

Cafodd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ei chau ym mis Rhagfyr 2013 pan ddaeth honiadau difrifol i'r golwg ynglŷn â gofal y cleifion.

Cafodd wyth o staff eu gwahardd a phedwar arall eu symud i wneud dyletswyddau eraill.

Ym mis Mai 2015 fe gyhoeddwyd adroddiad damniol gan yr arbenigwyr iechyd annibynnol Donna Ockenden.

Roedd yr adroddiad hwnnw yn dweud bod cleifion wedi dioddef "camdriniaeth sefydliadol" gyda rhai wedi eu trin "fel anifeiliaid" ar y ward.

Cafodd dau ymchwiliad pellach eu comisiynu gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, un gan y Gwasanaeth Ymgynghorol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) oedd yn edrych ar gwynion, rheoliadau proffesiynol a materion cyflogaeth, ac adolygiad oedd yn edrych ar yr hyn ddigwyddodd ar y ward a'r trefniadau presennol ar gyfer cleifion iechyd meddwl.

Donna Ockenden sydd yn gyfrifol am yr adolygiad yma.

Y gwaith yn 'cymryd amser'

Yn ystod cyfarfod gyda'r bwrdd iechyd dywedodd Tina Long, Cyfarwyddwr ar gyfer Ymchwiliadau Allanol y bydd tystion yn cael eu cyfweld gan yr HASCAS yn ystod y ddau fis nesaf.

Mae'r tystion yn perthyn i ddau gategori. Y categori cyntaf yw'r rhai sydd yn wynebu honiadau yn eu herbyn, a'r ail yw'r rhai mae'r corff eisiau gwybodaeth oddi wrthynt.

Dywedodd Ms Long: "Mae'r ddau ddarn o waith wedi cymryd mwy o amser nag oedden ni wedi darogan ac mae'r cymhlethdod wedi cynyddu yn ystod y cyfnod.

"Mae'n bosib y bydd y ddau fater yma yn cael effaith ar y gost ar y diwedd."

Mae disgwyl i'r ymchwiliadau fod wedi eu cwblhau erbyn y gwanwyn neu yn gynnar yn yr haf ond ychwanegodd Ms Long bod hynny yn dibynnu ar "gyfweliadau wedi eu gorffen ar amser a bod tystion ar gael".