Ffurfio cynllun i daclo prinder llefydd ysgolion Bangor
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i aelodau cabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo cynllun ddydd Mawrth i sefydlu pwyllgor i adolygu'r ddarpariaeth addysg yn ardal Bangor.
Mae yna brinder lle yn rhai o ysgolion y ddinas ac mae'r adeiladau angen eu hadnewyddu.
Dros y misoedd nesaf bydd y cyngor yn ymgynghori gyda phenaethiaid, llywodraethwyr a chynghorwyr er mwyn ffurfio cynllun i weddnewid y ddarpariaeth addysg i blant y ddinas.
Ar hyn o bryd mae 245 o dai yn cael eu codi gan gwmni Redrow ar safle Goetre Uchaf ym Mhenrhosgarnedd ar gyrion Bangor.
Mae Cyngor Gwynedd yn amcangyfrif y bydd 90 o blant yno fydd angen addysg gynradd, a 70 o blant oedran uwchradd.
Arian wedi'i glustnodi
Dyw hi ddim yn debygol y byddan nhw'n cael lle yn Ysgol y Garnedd, ysgol sydd wedi ei chynllunio ar gyfer 210 o blant, ond eisoes mae yna 316 o blant yno, 100 yn fwy nag sydd i fod.
Bwriad Cyngor Gwynedd yw cynnal ymgynghoriad dros y misoedd nesaf i gasglu barn am sut i wella'r ddarpariaeth.
Mae arian eisoes wedi ei glustnodi yn ôl yr aelod cabinet dros addysg, y cynghorydd Gareth Thomas: "Mae gynnon ni £12m yn cynnwys £1.1m gan gwmni Redrow ar gyfer addysg fel rhan o'r amodau cynllunio.
"Mi fyddwn ni'n cael £6.3m gan y llywodraeth, rhywfaint o arian y cyngor, a rhywfaint o arian wrth werthu asedau.
"Mae'r arian yna, ond 'dan ni eisiau eistedd i lawr hefo pobol leol, yr aelodau, penaethiaid a llywodraethwyr i gynllunio yn iawn ar gyfer y dyfodol."

Mae Dr Elin Walker Jones yn llywodraethwr Ysgol y Garnedd
Mae cynllun tai'r Goetre Uchaf ar fin cael ei gwblhau.
Ond mae yna gais cynllunio arall dan ystyriaeth yr arolygiaeth gynllunio i godi dros 350 o dai ychwanegol ym Mhen y Ffridd, fyddai'n golygu fod angen darparu lle i 146 ychwanegol o blant oedran cynradd.
Dywedodd Dr Elin Walker Jones, sy'n llywodraethwr ar Ysgol y Garnedd: "Mae'n gwbl argyfyngus. Mae yna dyfiant yn y boblogaeth.
"Be' sydd ei angen ar gyfer holl blant Bangor ydi'r cyfleoedd mae fy mhlant i wedi ei gael yn Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan, sef addysg ddwyieithog, gydag ethos Gymraeg mewn ysgolion bendigedig, ac mi fyddwn ni'n dymuno i bob plentyn ym Mangor gael yr un cyfle."
Mae rhieni eisoes wedi dechrau ffurfio barn am yr hyn hoffen nhw ei weld yn digwydd yn ardal Bangor.

Byddai ysgol gydol oes yn golygu bod mwy o le i blant chwarae, meddai Ruth Williams
Mae Ruth Williams yn fam i dri o blant fu'n mynychu Ysgol y Garnedd, ond sydd bellach yn Ysgol Uwchradd Tryfan.
Yn ei barn hi mae angen ysgol gydol oes.
"Mi fyddai cyfle wedyn i rannu cyfleusterau, fyddai'n dod â'r costau i lawr i'r sir," meddai.
"Mae o wedi digwydd mewn llefydd eraill fel y Bala a Llandysul sydd newydd agor eleni.
"Mae'r ysgolion presennol mewn llefydd bach tynn, does yna ddim cae rygbi yn ysgol Tryfan, cae bychan iawn sydd o gwmpas y Garnedd, felly byddai cael ysgol hefo digon o le i ymarfer yn lles i blant, yn enwedig oherwydd problemau gordewdra y dyddiau hyn."
Bwriad y cyngor ydi cynnal cyfres o gyfarfodydd rhwng rŵan a diwedd mis Mai gan anelu i gael cynllun yn ei le erbyn mis Gorffennaf er mwyn dechrau'r broses statudol.