Sinemâu annibynnol dan fygythiad yn dilyn Brexit

  • Cyhoeddwyd
Chapter
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cyfarwyddwr sinema Chapter y byddai colli arian Ewropeaidd yn "arwyddocaol"

Mae'r corff sy'n cynrychioli sinemâu annibynnol yng Nghymru yn pryderu gall 'Brexit caled' gael effaith mawr ar y diwydiant.

Mae'r Swyddfa Sinemâu Annibynnol yn dweud y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith ar gyllid a bydd swyddi'n cael eu colli.

Dywedodd Steffan Thomas o'r corff: "Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd ar ôl i ni adael [yr Undeb Ewropeaidd].

"Mae'n gyfnod ansicr. Bydd Brexit caled yn cael effaith mawr ar y diwydiant a bydd pobl yn colli eu swyddi.

"Bydd Brexit caled yn golygu llai o gyllid, er enghraifft ar gyfer adfywio ac adeiladu sinemâu newydd.

"Mae'r bobl sydd eisiau bod yn entrepreneuriaid a dechrau sinemâu cymunedol eu hunain angen cefnogaeth, heb hynny does dim modd iddo ddigwydd."

'Arwyddocaol'

Ar hyn o bryd mae modd i sinemâu annibynnol gael mynediad at ddau wahanol fath o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd.

Canolfan Chapter yng Nghaerdydd ydy'r unig sinema yng Nghymru sy'n aelod o'r rhwydwaith Europa Cinema - rhwydwaith cylchrediad ffilmiau Ewropeaidd gafodd ei sefydlu yn 1992.

Dywedodd cyfarwyddwr canolfan Chapter, Sally Griffith: "Mae potensial o golli'r cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd i sefydliad fel y Chapter yn arwyddocaol.

"Os byddwn yn colli'r cyllid yna byddwn yn chwilio am nifer o ffyrdd i lenwi'r bwlch hwnnw."

Mae cais wedi ei wneud am ymateb gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.