Yr anrhydedd yn 'anodd credu': Urddo aelodau newydd i'r Orsedd

Lili Mai Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe gymrodd Lili Mai Jones yr enw barddol 'Lili ferch Gareth'

  • Cyhoeddwyd

Mae degau o aelodau newydd wedi cael eu hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Wrecsam.

Gyda'r tywydd yn braf, cafodd y seremoni ei chynnal yng nghylch yr Orsedd tu allan i'r Pafiliwn.

I'r actor a Llywydd yr Ŵyl, Mark Lewis Jones roedd hi'n "ddiwrnod i'r brenin", tra bod yr anrhydedd yn "anodd credu" i'r pêl-droediwr lleol Lili Mai Jones

Ymhlith y rhai eraill a gafodd eu hurddo gan yr Archdderwydd Mererid fore Gwener oedd y newyddiadur Maxine Hughes, yr actor a cherddor Geraint Cynan a'r darlledwyr Dewi Llwyd a Dylan Jones.

Lili Mai Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lili yn astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor

Cafodd y pêl-droediwr Lili Mai Jones ei hurddo i'r wisg las am fod yn rhan o'r chwyldro pêl-droed menywod yng Nghymru, ac yn arbennig yn Wrecsam.

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd ei bod hi "bach yn nerfus" cyn y seremoni ond yn teimlo "braint fawr" wrth dderbyn yr anrhydedd.

"Roedd e'n anodd credu ar y dechrau achos dwi ddim yn deall pam dwi yma.

"Dwi'n gwneud y pethau dwi'n caru - yn chwarae pêl-droed - ac o'n i yn y lle iawn o ran yr amser efo Wrecsam.

"Dwi'n astudio'r Gymraeg achos dwi'n angerddol am y Gymraeg, felly fyswn i 'di 'neud hynna beth bynnag.

"Mae'n anodd credu rili mod i wedi cael fy adnabod am wneud hynny, ond mae'n arbennig hefyd."

Wrth i'r gynulleidfa ei chymeradwyo, cyhoeddwyd mai ei henw yn yr Orsedd fydd 'Lili ferch Gareth', ar ôl iddi golli ei thad bedair blynedd yn ôl.

Disgrifiad,

"Anrhydedd enfawr a phrofiad anhygoel" - ymateb rhai o'r rheiny a gafodd eu hurddo fore Gwener

Mae'r anrhydeddau blynyddol yn gyfle i roi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau, ac maen nhw'n cael eu rhannu i dri chategori:

  • Y Wisg Werdd am gyfraniad i'r celfyddydau;

  • Y Wisg Las i'r rhai sy'n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl;

  • Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig.

Ymhlith y rhai a oedd yn cael eu derbyn i'r wisg las oedd Rhun ap Iorwerth, y brodyr Avid a Nigel Aykroyd o'r Bala a Clare Vaughan o Wrecsam, sydd yn athrawes Gymraeg ym Mhatagonia ar ôl dysgu'r iaith.

Cafodd Antwn Owen-Hicks, enillydd dysgwr y flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ei dderbyn i'r wisg wen.

Dewi Llwyd yn siarad gyda Cymru Fyw
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dewi Llwyd ei dderbyn i'r wisg las am ei gyfraniad i fyd newyddiaduraeth a'r cyfryngau

Yn newyddiadurwr a darlledwr sy'n llais cyfarwydd i nifer, mae Dewi Llwyd wedi adrodd ar rai o straeon newyddion mwyaf Cymru a'r byd yn ehangach.

"Dwi 'di mwynhau yn aruthrol, falle bron yn annisgwyl," meddai.

"Mae'n brofiad hyfryd iawn, yn enwedig i rywun sydd wedi bod yn cyflwyno yn y 'Steddfod ers blynyddoedd lawer.

"Dyma'r anrhydedd fwyaf all Cymro Cymraeg ei dderbyn felly dwi'n hynod ddiolchgar.

"Dwi'n diolch i fy nheulu ond hefyd i'r gwylwyr sydd wedi bod mor deyrngar. Dwi'n sefyll yn y fan hon oherwydd eu cefnogaeth hwy."

Ei enw barddol fydd 'Dewi o'r Garth'.

Yr Archddewrydd Mererid yn arwain seremoni'r Urddo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd torf o bobl yn gwylio'r seremoni dan arweiniad yr Archdderwydd Mererid yng nghylch yr Orsedd fore Gwener

Wrth groesawu'r aelodau newydd, fe wnaeth yr Archdderwydd Mererid unwaith eto ymbil am heddwch yn "ein dyddiau rhyfelgar ni".

"Rwy'n eich derbyn un ac oll i freintiau a chyfrifoldeb urdd derwydd yng ngorsedd y beirdd - anrhydeddwch gelfyddyd, amddiffynnwch y Gymraeg," meddai.

"Dyma'n atgoffa ein gilydd nad cwestiwn arferol a ofynnwn dan ein cleddyf heddwch.

"Nid yw'n gofyn am ateb ond yn hytrach am ymateb - a'r un gair hwnnw heddwch, yn ymbyliad yn ein dyddiau rhyfelgar ni."

Mark Lewis Jones a Dewi Llwyd yn eu gwisg orseddFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mark Lewis Jones hefyd ydy Llywydd yr Ŵyl eleni

Mae'r aelodau sy'n gwisgo gwyrdd yn arbenigo ym myd y celfyddydau. Gall hynny ddigwydd er anrhydedd, trwy radd neu drwy arholiad.

Dywedodd Llywydd yr Ŵyl a'r actor Mark Lewis Jones wrth Cymru Fyw ei fod "methu credu'r peth".

"Dwi 'di cael wythnos i'r brenin a ma' heddiw jest yn topio fo i gyd," meddai.

"Dwi wrth fy modd yma."

Jessica Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jessica Robinson o Grymych ei derbyn i'r wisg werdd am ei llwyddiant ym myd y celfyddydau

Hefyd yn cael ei hurddo oedd y soprano Jessica Robinson, a ddywedodd ei fod yn "deimlad mor ffantastig".

Hi oedd y cyntaf o Gymru i gyrraedd rownd derfynol Canwr y Byd ers 20 mlynedd.

Cafodd ei thad yng nghyfraith, Geraint Cynan o Gaerdydd, hefyd ei urddo i'r orsedd fore Gwener.

Dywedodd Jessica bod cael rhannu'r diwrnod gydag ef wedi gwneud y profiad "hyd yn oed yn fwy sbesial".

"Mae e jest yn hyfryd a ma'r haul yn edrych lawr arnom ni," ychwanegodd.

Yn ôl y newyddiadur Maxine Hughes - oedd hefyd yn Arweinydd Cymru a'r Byd eleni - dyma oedd y "diwedd perffaith i wythnos sydd wedi bod yn anhygoel o dda".

"Mae'n anrhydedd enfawr, profiad anhygoel - mae'n anodd disgrifio rili," meddai.

"Mae'r tywydd yn braf, cymuned Wrecsam yna, teulu a ffrindiau dros y byd."