Mantell Aur Yr Wyddgrug ar gyfres o stampiau newydd
- Cyhoeddwyd
Bydd un o drysorau enwocaf Cymru yn ymddangos ar gyfres newydd o stampiau.
Mae Mantell Aur Yr Wyddgrug yn un o'r creiriau neu leoliadau fydd i'w gweld ar gasgliad o stampiau sy'n nodi'r cyfnod cynhanesyddol yn Ynysoedd Prydain.
Eitem o'r Oes Efydd yw'r Fantell Aur - sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Clogyn Aur - ac fe gafodd ei darganfod ar Fryn-yr-Ellyllon yn Yr Wyddgrug yn 1833.
Mae hi wedi ei chadw fel rheol yn Yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, ond daeth yn ôl i Gymru am gyfnod yn 2005, dolen allanol ac eto yn 2013.
Cafodd y stampiau newydd eu dylunio gan Rebecca Strickson o Lundain.