'Argyfwng' prinder athrawon cyfrwng Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd fod rhai pynciau mewn ysgolion uwchradd yn wynebu "argyfwng" oherwydd prinder athrawon cyfrwng Cymraeg.
Yn ôl ffigyrau ddaeth i law Newyddion9, bu gostyngiad o 46% yn nifer y myfyrwyr a gwblhaodd ymarfer dysgu yn Gymraeg dros gyfnod o dair blynedd.
Mae cyfarwyddwr y cwrs mewn un prifysgol yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru lacio'r rheol, sy'n mynnu fod gan fyfyrwyr radd B yn eu Saesneg a mathemateg TGAU cyn gallu dechrau'r cwrs.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod datblygu gweithlu sy'n diwallu'r angen am addysg cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'r ffigyrau'n dangos fod 90 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau ymarfer dysgu uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae rhai eisoes wedi rhoi'r gorau i'r cwrs, ond dydy hi ddim yn hysbys faint.
Mae 40 o fyfyrwyr ym Mhrisfygolion Bangor ac Aberystwyth, sy'n cael eu cyfri fel un ganolfan, 24 yn Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant a 26 yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
78 gwblhaodd y cwrs uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2015/16 (y flwyddyn academaidd ddiwethaf) o'i gymharu â 145 yn 2013/14.
Mae'r proffesiwn dysgu yn methu â denu graddedigion, medd pennaeth Ysgol Tryfan ym Mangor, Gwyn Tudur: "Mae o'n bryder mawr ac yn bryder ers llawer o flynyddoedd ac mae gostyngiad pellach yn niferoedd y flwyddyn hon yn ei gwneud yn fwy difrifol.
"Mae'n argyfwng mewn rhai pynciau: mathemateg, gwyddoniaeth a Saesneg. Dyda ni ddim yn gallu denu'r mathemategwyr gorau a gwyddonwyr yn ôl i ysgolion."
Gall myfyrwyr sydd â graddau dosbarth cyntaf ennill cymaint â £23,000 wrth astudio ar gyfer cymhwyster dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
I sicrhau lle ar gwrs hyfforddi athrawon mewn prifysgol yng Nghymru, mae angen gradd B mewn TGAU Saesneg/Cymraeg a mathemateg. Dydy'r gofynion hynny ddim yn bodoli mewn prifysgolion yn Lloegr, ac mae rhai'n galw am adolygu'r polisi yng Nghymru.
Yn ôl Gina Morgan, cyfarwyddwr y rhaglen ar gyfer hyfforddiant athrawon uwchradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r polisi.
"Un o'r rhesymau sy'n rhwystr gwirioneddol i rai o'n darpar fyfyrwyr yw bod yn rhaid iddynt fod â gradd B mewn Saesneg a mathemateg TGAU a does gan nifer o'n ymgeiswyr ddim y proffil ddeuol honno.
"Gall hynny mewn gwirionedd fod yn ddigon iddyn nhw droi cefn ar hyfforddi yng Nghymru. Felly, mae'n bosibl bod gennym fyfyrwyr a fyddai'n hoffi hyfforddi gyda ni, ond am resymau fel y gradd B maen nhw'n mynd drosodd i Loegr a does wybod lle byddant yn cael eu swyddi."
Diwallu'r angen
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod datblygu gweithlu sy'n diwallu'r angen am addysg cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd llefarydd: "Golyga hyn gynllunio'n ofalus i gefnogi'r gwaith o ddatblygu athrawon a chynorthwywyr, ehangu cynlluniau sabothol ar gyfer y gweithlu cyfredol, a chynyddu nifer y gweithwyr sydd yn y sectorau gofal plant a blynyddoedd cynnar, a hynny o gryn dipyn."