Cyhuddo Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o beryglu cleifion
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo bwrdd iechyd o beryglu diogelwch cleifion ac o fethu dysgu gwersi o sgandal ward iechyd meddwl.
Fe ddywed Cyngres Iechyd Gogledd Cymru (NWHA) bod adroddiad gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dangos methiannau sylweddol yn ymwneud â diogelwch cleifion.
Yn ôl y grŵp, mae hynny'n golygu bod y bwrdd, mewn rhai achosion, o dan risg o dorri'r gyfraith.
Dywedodd y bwrdd ei fod eisoes yn gweithio ar fesurau i leihau risgiau.
'40% heb hyfforddiant'
Cafodd canfyddiadau'r adroddiad diogelwch blynyddol eu cyflwyno i swyddogion y bwrdd iechyd yr wythnos ddiwethaf.
Maen nhw'n amlinellu 13 risg gan gynnwys:
Risg o gosb oherwydd "methiannau sylweddol i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch". Mae hyn mewn perthynas â rheolau ynglŷn â phryd a pam y dylid cadw cleifion hŷn neu fregus er eu lles eu hunain, pan nad oes ganddyn nhw'r gallu i wneud penderfyniad drostyn nhw'u hunain;
Posibilrwydd nad yw oedolion a phlant mewn gofal sydd o dan risg o drais yn y cartref neu broblemau iechyd meddwl "yn cael eu hadnabod wrth fynd i adrannau brys, gan arwain at niwed sylweddol posib";
40% o staff y bwrdd heb eu hyfforddi mewn diogelu, "gan arwain at risg o beryglu diogelwch cleifion";
"Torri sylweddol o ddeddfwriaeth yn ymwneud â rhannu gwybodaeth gyfrinachol" gan ddefnyddio e-bost anniogel a'r tu allan i rwydwaith y bwrdd.
'Nid materion pitw yw'r rhain'
Dywedodd Marc Jones o'r NWHA: "Blwyddyn a hanner ar ôl cael eu rhoi dan fesurau arbennig a derbyn cefnogaeth ychwanegol, mae'n rhaid gofyn a yw Betsi Cadwaladr yn dysgu gwersi a gwneud gwelliannau?
"Nid materion pitw yw'r rhain, ond peryglon difrifol. Fe ddylai sgandal Tawel Fan fod wedi deffro'r bwrdd mewn perthynas â'r angen i ystyried diogelwch a risg i gleifion o ddifri.
"Dydyn ni ddim am weld hynny'n digwydd eto."
Mae dadansoddiad y bwrdd ei hun o'u gwendidau yn tanlinellu polisïau "aneglur", nemor ddim tystiolaeth o rannu ymarfer da ac ychydig iawn o ddefnydd o hyfforddiant diogelwch cleifion.
Fe ddaw'r feirniadaeth wrth i'r bwrdd gyfarfod ddydd Iau i glywed y diweddaraf am ddau ymchwiliad i hanes ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, a gaeodd yn 2013.
Clywodd ymchwiliad annibynnol gan yr arbenigwraig Donna Ockenden ym Mai 2015 dystiolaeth gan berthnasau oedd yn dweud bod cleifion ar ward Tawel Fan yn cael eu trin fel anifeiliaid mewn sŵ.
Arweiniodd hynny at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei roi mewn mesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru, ac ymddiswyddiad y prif weithredwr ar y pryd.
Haf 2017
Bydd aelodau'r bwrdd yn clywed yn ddiweddarach bod disgwyl i'r ymchwiliadau presennol i'r hyn ddigwyddodd barhau nes haf 2017.
Wrth ymateb i feirniadaeth NWHA, dywedodd cyfarwyddwr meddygol gweithredol y bwrdd, Dr Evan Moore bod y bwrdd eisoes yn gweithredu ac wedi bod yn gwneud ers i'r asesiad diogelwch gael ei wneud yn hydref 2016.
"Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod hyn wedi lleihau'r risgiau mewn sawl ardal, ac o ganlyniad, wedi cytuno bod y marciau risg yn cael eu lleihau," meddai.
"Bydd y Bwrdd yn ystyried adroddiad manwl am hyn yn gyhoeddus yn ei gyfarfod llawn ym mis Mawrth."