Galw am newid ar ôl carcharu dynes am fil treth cyngor

  • Cyhoeddwyd
Melanie Woolcock

Mae dynes gafodd ei charcharu'n anghyfreithlon am fethu a thalu biliau treth y cyngor am weld newid yn y gyfraith i sicrhau nad yw pobl eraill yn cael yr un profiad.

Cafodd Melanie Woolcock o Borthcawl ddedfryd o 81 diwrnod o garchar gan ynadon ym Mhen-y-bont ym mis Gorffennaf 2016 am fethu a thalu £10 yr wythnos tuag at ei dyled.

Roedd hi dan glo am hanner y ddedfryd cyn i elusen ei helpu i gael ei rhyddhau.

Dydd Mercher, penderfynodd barnwr yn yr Uchel Lys, Mr Ustus Lewis, na ddylai Ms Woolcock wedi cael ei charcharu o gwbl.

Dywedodd nad oedd digon o dystiolaeth bod Ms Woolcock wedi bod ar fai am beidio talu'r biliau.

Clywodd y llys bod gan Ms Woolcock ddyled o dros £4,700, ond dywedodd ei bod yn rhy wael i weithio ac yn cael trafferth talu biliau a phrynu bwyd iddi hi a'i mab.

Dywedodd nad yw hi erioed wedi troseddu, ac erbyn hyn mae hi wedi cael ceisiadau gan brifysgolion yn gofyn am ei chefnogaeth i newid y gyfraith, i atal eraill rhag mynd i'r un sefyllfa.

"Pan wnes i ddod adref [o'r carchar], doeddwn i heb sylwi ar yr effaith yr oedd wedi ei gael arna'i, doeddwn i methu cysgu," meddai.

"Roedd fy mab wedi cael ysgytwad am y ffordd cefais fy nghymryd. Roedd rhaid i mi ei adael yn sgrechian, yn crio."

Dywedodd Ms Woolcock ei bod wedi cadw at y taliadau nes iddi gael ei charcharu, ond cafodd wybod ei bod wedi talu yn rhy hwyr.

"Dwi'n meddwl ei bod yn anghywir os ydych chi'n cael trafferth talu bil eich bod yn cael eich gyrru i garchar llawn troseddwyr, pan dydw i erioed wedi troseddu yn fy mywyd, erioed wedi cael dirwy am barcio," meddai.