Cymro'n ail ar ddiwedd ras hwylio o amgylch y byd

  • Cyhoeddwyd
CwchFfynhonnell y llun, Mark Lloyd

Bydd yn rhaid i'r hwyliwr o Gymru, Alex Thomson fodloni ar ddod yn ail yn y ras hwylio unigol rownd y byd, y Vendee Globe.

Llwyddodd y Ffrancwr Armel Le Cleac'h i groesi'r llinell derfyn yn gyntaf brynhawn dydd Iau, gan osod record newydd i'r gystadleuaeth wrth wneud hynny.

Roedd Thomson, o Fangor, wedi brwydro'n arwrol i geisio goddiweddyd Le Cleac'h dros yr wythnosau diwethaf, ond fe wnaeth problemau technegol gyda'i gwch Hugo Boss olygu mai'r ail safle oedd fwyaf tebygol iddo yn ystod y cymal olaf o'r daith.

Fe hwyliodd Armel Le Cleac'h i ben ei daith mewn 74 diwrnod, tair awr, 35 munud a 46 eiliad, ac mae disgwyl i dorf o tua 350,000 ei groesawu adref ym mhorthladd Les Sables-D'Olonne yn Ffrainc.

Mae disgwyl i Alex Thomson gyrraedd yn ddiweddarach ddydd Iau, ac yntau 100 o filltiroedd môr tu ôl iddo.

Bydd yn rhaid i'r Cymro aros am bedair blynedd arall cyn iddo gael cyfle unwaith eto i herio am y ras sy'n cael ei hadnabod fel 'Everest' y byd hwylio oherwydd maint yr her.

Ffynhonnell y llun, Alex Thomson
Disgrifiad o’r llun,

Alex Thomson yn ystod y ras