Galw am godi tâl i gerdded Yr Wyddfa i dalu am waith cynnal
- Cyhoeddwyd
Dylid ystyried codi tâl ar gerddwyr i fynd i fyny'r Wyddfa er mwyn codi arian i dalu am fwy o waith cynnal a chadw ar y llwybrau, yn ôl swyddog Undeb Amaethwyr Cymru.
Ar hyn o bryd £250,000 sy'n cael ei wario ar y llwybrau, ond mewn gwirionedd mae angen miliynau o bunnoedd i allu gwneud y gwaith yn iawn.
Dywedodd Gwynedd Watkin bod pwysau mawr ar y llwybrau, gyda channoedd o filoedd o bobl yn heidio i lethrau'r Wyddfa yn flynyddol.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud ei fod yn annhebygol y bydden nhw'n cefnogi cynllun o'r fath.
400,000 o gerddwyr
Mae mwy na 400,000 o bobl yn cerdded Yr Wyddfa pob blwyddyn, a dros 200,000 yn mynd i fyny ar y trên.
Yn ôl Mr Watkin, byddai £10 yn bris teg i gerdded i fyny mynydd uchaf Cymru.
Dywedodd Mr Watkin: "Er mwyn ceisio sicrhau digon o incwm i allu parhau i wneud gwaith cynnal a chadw llwybrau byddai angen creu rhyw fath o system adnabod fel bod cerddwyr yn gallu dangos trwydded i'r wardeiniaid pe bai angen."
Ychwanegodd: "Ar ddiwedd y dydd os 'da chi'n gallu talu £50 i fynd i weld cyngerdd, opera neu gêm bêl-droed er enghraifft, be' fase £10 o'i gymharu â hynny am ddiwrnod cyfan o adloniant ar y mynydd?"
'Problemau ymarferol'
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy'n gofalu am Yr Wyddfa ac yn ôl llefarydd ar eu rhan, Jonathon Cawley mae'n annhebygol y byddai'r corff yn cefnogi cynllun o gael cerddwyr i dalu.
"Dwi'n falch iawn fod holl fater cynnal a chadw'r llwybrau'n cael ei drafod," meddai.
"Mae 'na bwysau cynyddol ar Yr Wyddfa felly mae'n bwysig eistedd i lawr a thrafod gwahanol syniadau.
"O ran y syniad o drwyddedu dwi'n meddwl bod 'na broblemau ymarferol a chyfreithiol.
"Dwi ddim yn siŵr y byddai'n rhywbeth y byddai awdurdod y parc yn ei gefnogi, ond dwi'n meddwl bod o'n bwysig bod ni'n trafod y gwahanol opsiynau."
Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd rydyn ni'n gwario rhyw £250,000 ar gynnal a chadw llwybrau ar Yr Wyddfa, ond mewn gwirionedd mae angen gwario miliynau o bunnoedd i wneud y gwaith yn iawn, a dydi arian fel'na ddim gennym ni."
Mae 'na gynllun peilot o'r enw Rhodd Eryri wedi bod yn rhedeg ers chwe mis, lle mae'r cyhoedd yn gallu cyfrannu tuag at warchod Eryri.
Mewn cyfarfod yn Llanberis nos Lun cyhoeddwyd fod bron i £3,500 wedi ei gasglu ar gyfer y cynllun. Mae'n debygol iawn y bydd cynlluniau fel hyn yn dod y fwy pwysig yn y dyfodol wrth i gyllidebau awdurdodau a chynghorau wynebu mwy o straen.