Goroesi'r cam-drin

  • Cyhoeddwyd

*Rhybudd: Gall gynnwys yr erthygl beri loes i rai darllenwyr*

Ffynhonnell y llun, Ján Frayne
Disgrifiad o’r llun,

Ján Frayne yn blentyn

Byddai'r rhan fwyaf o blant yn ystyried eu hamser yng nghwmni eu tad-cu a'u mam-gu ymysg y mwyaf dedwydd a hapus yn eu bywydau. Ond trodd ymweliadau Ján Frayne gyda nhw yn ystod y gwyliau ysgol yn hunllef. Dechreuodd ei dad-cu ei gam-drin yn rhywiol, a gwahodd ffrindiau iddo draw i wneud yr un peth.

Mae Ján Frayne, awdur 49 oed, yn rhannu ei stori ysgytwol gyda Cymru Fyw:

Roedd tad Ján Frayne yn gweithio ar y môr a bu farw ei fam pan roedd yn naw oed, ar ôl brwydro canser. Golygai hynny y byddai'n treulio bron pob gwyliau ysgol yn nhŷ rhieni ei fam yn Llanybydder.

Roedd ei dad-cu yn deiliwr a'i fam-gu yn gweithio iddo hefyd - ond roedd hi'n ddynes fywiog a phrysur iawn, ac yn aml iawn allan o'r tŷ.

"Roedd hi'n ddall i'r hyn oedd yn digwydd," meddai Ján, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin.

Ond roedd un dyn arall yn ei gam-drin hefyd, sef brawd ei dad-cu, a oedd yn Weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

"Roedd fy nhad-cu yn alcoholig, a doedd e na mam-gu ddim yn rhannu gwely, nac ystafell wely. Yn ystod y gwyliau, gan amlaf roedd rhaid i fi rannu gwely gyda fy nhad-cu. Roedd e a fy hen ewythr yn fy nghyffwrdd i'r un pryd," meddai.

"Wnaeth popeth ddechrau pan o'n i'n fach iawn, a pharhau tan fy mod i'n 12 oed. Ac er mai fy nhad-cu oedd yn fy ngham-drin i fwyaf, ar rai achlysuron, roedd ei ffrindiau yn cymryd rhan hefyd."

Mae'n sôn am ddwylo ei ddad-cu yn crwydro ar draws ei gorff, yr oglau tybaco a wisgi - ag yntau'n gorwedd yno, yn gaeth, methu symud.

Roedd ei dad-cu yn defnyddio teclynnau hefyd, yn cynnwys rhaffau, ac ynghyd â bod yn gaeth i'r gwely, roedd e hefyd yn cael ei hongian oddi ar y wal mewn gefynnau.

"Bydden i'n cael fy ngadael fel yna am awr, neu hyd at bedair awr, yn dibynnu ar ble oedd fy mam-gu ar y pryd," meddai.

Dro arall, roedd e'n cael ei glymu lawr ar fwrdd gwnïo, meddai.

Ffynhonnell y llun, Ján Frayne
Disgrifiad o’r llun,

Dyddiau diniweidrwydd cyn i fywyd Ján Frayne newid yn llwyr

Dioddef yn dawel

Mae'n cymryd dewrder anhygoel i droi at rywun i ddweud eich bod wedi dioddef camdriniaeth rywiol, meddai Ján. Er iddo fe ei hunan ymddiried yn ei chwaer a'i fodryb pan oedd e'n 16 oed, doedd y naill na'r llall yn ei gredu.

"Wnes i ddweud wrth Dad pan o'n i'n saith oed nad o'n i'n hoffi mynd i aros gyda fy nhad-cu a bod pethau gwael yn digwydd, ond wnaeth e ddim byd," meddai.

"Tan fy mod i'n fy mhedwar degau, wnes i aros yn dawel. Bu farw Dad pan o'n i'n 19 oed, a bu farw fy nhad-cu pan o'n i'n 21 oed, a dwi'n cymryd bod y sawl wnaeth fy mrifo i wedi hen farw.

"Ond dim ond nawr mae pobl yn fy nghredu. Mae pobl eraill wedi dod i siarad gyda fi, a dweud eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gyda fy nhad-cu hefyd."

Mae'r cyfan oll wedi ei adael yn oedolyn cymhleth iawn, mae'n cyfaddef. Dyw e ddim wedi gallu gweithio ers 2011.

"Dwi wedi cael iselder ofnadwy, anhwylder personoliaeth ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol; ynghyd â chael casineb llwyr tuag at fy hun yn dilyn blynyddoedd o gael fy ngham-drin," meddai.

"Mae fy meddwl a fy nghorff wedi cael eu chwalu, ac am flynyddoedd wnes i fyw gyda hyn yn hollol ddall i'r rheswm go iawn pam fy mod i mewn cyflwr mor gymhleth. Roedd y cam-drin mor drawmatig, roedd fy ymwybod yn cael gwared ar yr atgofion i gyd, yn eu claddu nhw'n ddwfn yn fy isymwybod.

"Roedd peidio deall beth oedd yn bod arna' i yn ychwanegu at y boen. Dim ond drwy simsanu wrth bron â cholli fy mhwyll nôl yn 2011 wnes i ddarganfod y gwirionedd."

'Nid fi sydd ar fai'

Mae'r siwrne ers hynny wedi bod yn boenus iawn, meddai, wrth fynd drwy amryw therapi.

"Dwi wedi gorfod datgymalu fy mywyd, a'i roi yn ôl, darn wrth ddarn. Mae'r boen yn dal yno, yn gorfforol a meddyliol, ond dwi'n gwybod nawr sut i'w leihau, a'i reoli.

"Mae yna gyfnodau tywyll o hyd, a gallaf ddychmygu y bydd hynny'n digwydd gweddill fy mywyd. Y gwahaniaeth nawr yw fy mod i'n deall y rhesymau. Dwi'n deall nad fi sydd ar fai.

"Dyw'r gorffennol ddim yn fy rheoli i bellach. Dwi wedi cymryd rheolaeth. Fi sydd wrth y llyw, ar ôl blynyddoedd o faglu yn y tywyllwch."

Disgrifiad o’r llun,

Ján Frayne heddiw: "Fi sydd wrth y llyw, ar ôl blynyddoedd o faglu yn y tywyllwch."

Geiriau'n gysur

Erbyn hyn, mae Ján Frayne yn rhedeg blog am ei brofiad, ac yn 2012 fe gyhoeddodd y llyfr Beyond Survivor - Rising From The Ashes Of Childhood Sexual Abuse.

"Daeth ysgrifennu yn ddihangfa i fi, ac yn therapi. Ro'n i'n gallu mynegi'r erchylltra mewn cerddi neu ryddiaith nad o'n i'n gallu eu dweud ar lafar."

Mae'n awyddus i ledaenu'r gair, a rhoi sylw i gamdriniaeth rhywiol, am ei fod e'n teimlo mai prin iawn yw'r adnoddau i'r rheiny sydd wedi diodde, meddai, ac mae wedi treulio pedair blynedd yn ceisio codi proffil dynion sydd wedi goroesi.

"Mae'r dynion sy'n dioddef yn cael eu gwatwar.

"Dwi'n nabod llawer sydd ddim yn codi llais am eu bod nhw'n poeni y bydd cymdeithas yn meddwl na fyddan nhw'n 'ddigon o ddyn', a bydd pobl yn chwerthin am eu pennau. Efallai bod rhai dynion yn teimlo bod hi'n haws i beidio dweud dim, a byddai'n well ganddyn nhw farw na chyfaddef beth sy'n digwydd iddyn nhw.

"Mewn gwirionedd, mae llawer iawn o fechgyn a dynion yn marw - mae'n well ganddyn nhw ladd eu hunain na siarad.

"Mae'r treisiwr neu'r pidoffeil yn ennill bob tro. Rhaid i hyn newid."

Disgrifiad o’r llun,

Ysgrifennodd Jàn Frayne lyfr yn 2012 i godi ymwybyddiaeth o gam-drin rhywiol

Stori: Llinos Dafydd