Y gêm ar ben i Glwb Rygbi Cymry Llundain

  • Cyhoeddwyd
Cymry LlundainFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi eu hatal rhag chwarae yng nghynghreiriau proffesiynol Lloegr, yn ogystal â cholli eu lle yn y Bencampwriaeth.

Fe ddaeth y penderfyniad gan yr Undeb Rygbi wedi i'r clwb fethu ag argyhoeddi corff llywodraethu'r gamp yn Lloegr fod eu dyfodol ariannol yn ddiogel.

Cafodd y clwb, sydd â'u cartref yn ardal Richmond, Llundain, eu gwneud yn fethdalwyr ym mis Rhagfyr.

Dywedodd cadeirydd y clwb, Andy Cosslett: "Mae'n anffodus iawn ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma, ond gyda'r clwb wedi'i ddiddymu ac felly yn methu â bodloni amodau'r Bencampwriaeth, ni allwn gymryd rhan yn y gystadleuaeth... mae wedi dod yn sefyllfa anghynaliadwy.

"Rydym yn gwybod y bydd hwn yn ddiwrnod siomedig iawn i bawb sy'n gysylltiedig â chlwb Cymry Llundain, gan gynnwys chwaraewyr, staff a chefnogwyr, a'r tristwch yw y bydd colli'r clwb hwn o'r rhengoedd proffesiynol yn cael effaith ar draws y gêm."

Daeth Cymry Llundain yn un o glybiau adnabyddus y gêm amatur yn y 1960au a'r 70au, ac fe fu nifer o sêr Cymru fel John Dawes, JPR Williams, Gerald Davies a John Taylor yn chwarae dros y clwb.