Prifysgol yn 'dysgu gwersi' o adroddiad ar hiliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud eu bod yn dysgu gwersi wedi i adolygiad amlygu pryderon am gydraddoldeb hiliol yn ysgol feddygol y sefydliad.
Cafodd yr adolygiad ei gynnal yn dilyn adroddiadau bod perfformiwr wedi paentio ei wyneb wrth ddynwared aelod o staff mewn sioe i fyfyrwyr.
Fe fynegodd wyth o fyfyrwyr o dras Affricanaidd eu pryderon am y digwyddiad.
Dywedodd yr Athro Dinesh Bhugra, fu'n arwain yr adolygiad, bod y digwyddiad wedi achosi "straen aruthrol" i fyfyrwyr ac nad oedden nhw wedi cael cefnogaeth briodol.
Argymhellion
Mae'r Athro Bhugra, sy'n athro iechyd meddwl a seiciatraeth yn King's College, Llundain, wedi cyflwyno 13 o argymhellion i'r brifysgol.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Hyfforddiant cyson mewn amrywiaeth i staff, gan edrych ar hil, rhywedd a chyfeiriadedd rhyw;
Gwella proses cwynion a sicrhau bod canllawiau eglur am gwynion am hiliaeth;
Cynyddu amrywiaeth o fewn y staff.
Dywedodd y brifysgol eu bod yn derbyn pob un o'r argymhellion a'u bod eisoes yn gweithio i'w gweithredu.
Ychwanegodd yr Athro Colin Riordan: "Mae ein neges yn glir: nid yw dangos stereoteip sarhaus o unrhyw berson, neu grŵp o bobl, yn dderbyniol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2016