Prosiect i roi Fitbits ar wartheg fferm yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau'r flwyddyn fel hyn, mae 'na nifer ohonom ni yn defnyddio apps a theclynnau fel y Fitbit i weld faint 'dan ni'n gerdded neu redeg mewn ymdrech i gadw'n heini.
Ond rŵan mae'r dechnoleg yn cael ei ddefnyddio i weld be' ydy ffitrwydd rhai o wartheg fferm Coleg Glynllifon ger Caernarfon.
Mae'r cynllun yn para tair blynedd a'r nod ydy gweld pa rai ydi'r mwyaf heini - y rhai sydd yn byw tu allan neu'r rheiny sydd tu fewn.
Dywedodd Rhodri Owen, rheolwr fferm Glynllifon, eu bod wedi dewis 20 o wartheg tebyg o ran maint, ac y bydd 10 yn aros mewn sied, a'r 10 arall tu allan.
"Mi fydd y teclyn yn cael ei roi efo strap ar un o'u coesau blaen a byddwn yn mesur faint y byddan nhw'n gerdded ac yn gweld pa rai fydd yn geni lloeau orau," meddai.
"Siŵr braidd mae'r rhai tu allan fydd yn cerdded fwyaf wrth byddan nhw'n pori ac yn nôl dŵr ac yn y blaen.
"Y cwestiwn ydy a fydd y rhai sy'n cerdded fwyaf efo cyhyrau a ligaments cryfach ac, fel canlyniad, a fydden nhw'n geni yn haws ac efo llai o drafferthion na'r rhai fydd yn cerdded llai.
"Mi fyddan ni yn gallu cymharu'r data wedyn i weld pwy sydd yn perfformio orau ac yn fwyaf cost effeithiol o ran amser a chostau [i weld] a ydy system gaeafu gwartheg allan yn gweithio'n well".
Arloesi Gwynedd Wledig sydd wedi noddi'r cynllun Fitbit i wartheg yng Nglynllifon, a dywedodd Dafydd Gruffydd sy'n gweithio iddyn nhw bod technoleg ddigidol fodern yn dod yn fwyfwy pwysig ym myd amaeth.
"'Dan ni'n edrych ar ffurfiau newydd o weithredu mewn nifer o sectorau er mwyn dysgu a rhannu gwybodaeth ac ymarfer da", meddai.
"Mi fydd yr hyn 'dan ni'n ddysgu o'r gwaith ymchwil yng Nglynllifon yn cael ei rannu wedyn efo gweddill y sector amaeth."