Galwadau i newid statws ysgol eglwysig newydd yn Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau o'r newydd ar i Gyngor Gwynedd newid statws campws addysg newydd gwerth £10m sy'n cael ei godi yn Y Bala o un eglwysig i un gymunedol.
Mae llywodraethwyr Ysgol y Berwyn yn galw ar y cyngor i ail ddechrau'r broses ymgynghori ynglŷn â'r statws, ac mae dros 500 wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r dynodiad eglwysig.
Ond dywed yr Eglwys yng Nghymru eu bod wedi eu hymrwymo'n llwyr i'r ysgol newydd.
Ar hyn o bryd mae'r gwaith yn parhau o adeiladu campws newydd i blant 3-19 oed efo statws eglwysig ar safle presennol Ysgol y Berwyn.
Y cynllun yw uno dwy o ysgolion cynradd y dref, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant, sy'n ysgol eglwys, hefo'r ysgol uwchradd.
Ond aeth hi'n ffrae rhwng Cyngor Gwynedd a'r Eglwys yng Nghymru ar ôl i'r cyngor honni ddechrau Rhagfyr nad oedd yr Eglwys yng Nghymru bellach yn cefnogi'r cynllun.
Gwadu hynny'n bendant wnaeth yr eglwys.
Nawr mae llywodraethwyr Ysgol y Berwyn wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd yn galw arnyn nhw i ail ddechrau'r broses ymgynghori ynglŷn â statws y campws newydd.
"Wnaethon ni fel corff llywodraethol ddim rhoi ein cefnogaeth i ysgol 'efo statws eglwysig," meddai Gwion Lynch, cadeirydd y llywodraethwyr.
"Ysgol cwbl gymunedol ydi'n dymuniad ni wedi bod o'r dechre ac mae'r holl anghydfod diweddar 'ma i raddau wedi cadarnhau ein hofnau o'r dechre na fydde modd cydweithio i raddau fel partneriaeth rhwng yr eglwys, y cyngor sir a'r corff llywodraethol.
"Mae o wedi gadael rhyw flas cas ac mae'r ymddiriedaeth oedd ganddom ni yn ein gilydd fel partneriaeth i raddau wedi chwalu dros yr wythnosau diwetha' 'ma."
Ychwanegodd llywodraethwyr Ysgol y Berwyn y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd bod yn aelodau o gorff llywodraethol cysgodol y campws newydd os bydd gan hwnnw statws eglwysig.
'Tristwch a siom'
Ond wrth ymateb dywedodd y Gwir Barchedig Nigel Williams, Deon Llanelwy a llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru eu bod nhw'n wedi eu hymrwymo'n llwyr i'r ysgol newydd yn y Bala, a'i fod wedi ei siomi â barn y llywodraethwyr.
"Dwi'n teimlo tristwch a siom mewn ffordd achos 'de ni wedi bod drwy broses," meddai Mr Williams.
"Unwaith wnaethon ni fel eglwys fynd i mewn i'r broses honno ar wahoddiad Cyngor Sir Gwynedd, mi aethon ni ag ewyllys da a dymuno'n dda ar gyfer y prosiect i gyd... ac wrth gwrs mae'r cwynion yma wedi cael eu clywed unwaith o'r blaen.
"Mae'r un pethau'n cael eu codi eto ac felly mae fyny i Gyngor Gwynedd beth maen nhw'n wrando arno.
"Maen nhw wedi cymryd y penderfyniad tro cyntaf i symud yn eu blaenau a dwi'm yn gweld fod 'na ddim byd newydd yn cael ei godi yr eildro, felly mater i Gyngor Gwynedd ydi hynny mewn ffordd... mae'r ewyllys da ar ein rhan ni yn dal i fod yna."
Mae dros 500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn y statws eglwysig ac am weld statws cymunedol i'r campws newydd.
Dywedodd Dylan Jones, trefnydd y ddeiseb, bod "barn pobl Penllyn yn ddigon clir".
"Dyden nhw ddim eisiau gweld ysgol ffydd Anglicanaidd ar gyfer eu plant - ysgol gymunedol maen nhw eisiau," meddai wrth BBC Cymru Fyw.
Ond mae Dr Graham Thomas, rhiant i dri o blant yn Y Bala, yn fodlon â'r cynlluniau fel maen nhw ac yn ofni y bydd mwy o ymgynghori am y statws yn creu oedi yn y broses o greu'r campws newydd.
"Rydyn ni mewn peryg o golli cyfle i sefydlu'r ysgol yn iawn gyda phrifathro a staff mewn lle, oherwydd y mater o godi mater ymgynghoriad arall ynglŷn â statws yr ysgol newydd," meddai.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod wedi derbyn gohebiaeth gan gorff llywodraethol Ysgol y Berwyn yn nodi eu gwrthwynebiad i statws yr ysgol newydd ac y byddan nhw'n ymateb i'r corff yn fuan.
Mae disgwyl i adroddiad pellach ar y mater gael ei gyflwyno i gabinet y cyngor ar 14 Chwefror, ac mae'r awdurdod lleol yn dweud bod y bwriad o agor yr ysgol yn 2018 yn parhau.