Ysgol Farddol Caerfyrddin yn dathlu 25 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Un arall o aelodau'r ysgol yw Aneirin Karadog (dde) enillydd Cadair Eisteddfod Sir Fynwy 2016
Mae Ysgol Farddol Caerfyrddin yn dathlu pen-blwydd arbennig eleni.
I gyd fynd â'r dathliadau i nodi chwarter canrif o fodolaeth, mae'r ysgol yn galw ar aelodau a chyn-aelodau i anfon englyn neu gerdd at y golygydd ar gyfer eu cynnwys mewn cyfrol i ddathlu'r achlysur.
Cychwynnodd y dosbarth ym mis Medi 1992, ac ymhen tri mis bydd wedi darparu gwersi ar y gynghanedd yn ddi-dor am 25 mlynedd.
Erbyn hyn, mae'r grŵp yn cwrdd yng Nghlwb Rygbi'r Cwins yng Nghaerfyrddin bob pythefnos.
"Fi'n cofio'r wers gyntaf," meddai Geraint Roberts, un o drefnwyr yr Ysgol ac un o'r aelodau gwreiddiol.
"Roedd tri ohonom ni wedi dod at ein gilydd yn y Stag and Pheasant ym Mhontarsais, ac yn gwahodd Tudur Dylan i ddysgu ni. Mae Dylan wedi bod yn athro i'r ysgol drwy'r chwarter canrif."

Mae'r grŵp yn cyfarfod yng Nghlwb Rygbi'r Cwins yng Nghaerfyrddin
Yn ogystal â Tudur Dylan mae'r Prifardd Mererid Hopwood hefyd yn un o athrawon y dosbarth, ac mae nifer o aelodau'r ysgol farddol wedi ennill prif wobrau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd.
Y bwriad yw dathlu'r chwarter canrif trwy lunio cyfrol o farddoniaeth o waith aelodau a chyn-aelodau'r ysgol.
Ymhob dosbarth mae tasgau yn cael eu gosod, yn ogystal â gwaith cartref. Wedyn mae'r gwaith cartref yn cael ei drafod yn y dosbarth, gyda'r arweinydd yn rhoi adborth.
Y gobaith yw derbyn y cerddi erbyn diwedd Chwefror 2017, gan gyhoeddi'r gyfrol ar ddechrau'r haf, a bydd unrhyw elw o'r gyfrol yn cael ei gyfrannu at achos da.