'Dim cofnod gwariant' gan blaid Diddymu Cynulliad Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pleidlais

Nid yw plaid Diddymu Cynulliad Cymru wedi cyflwyno adroddiad ar ei gwariant yn ystod etholiad y Cynulliad llynedd, yn ôl y Comisiwn Etholiadol.

Mae'r mater bellach yn cael ei ystyried gan y Comisiwn gan fod y gyfraith yn gorchymyn i bob plaid oedd ag ymgeisydd i gyflwyno adroddiad ar ei gwariant.

Dywedodd plaid Diddymu Cynulliad Cymru bod adroddiad wedi ei gyflwyno, ond ei bod hi'n bosib bod "mater clerigol" wedi golygu nad yw'r Comisiwn wedi ei dderbyn.

Roedd gan y blaid ymgeiswyr ar y rhestrau rhanbarthol, ac yn rhanbarthau'r Gogledd a'r De Ddwyrain fe lwyddon nhw i drechu'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd y blaid yn chweched gyda 4.4% o'r bleidlais - mwy na'r Blaid Werdd.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y Comisiwn ffigyrau a oedd yn dangos bod gwariant 17 plaid a dau gorff nad oedd yn perthyn i blaid yn ystod etholiad y Cynulliad yn fwy na £1.26m.

Nid oedd gwariant plaid Diddymu Cynulliad Cymru wedi ei gynnwys ar y rhestr honno.