Incwm sylfaenol cyffredinol: Syniad 'pryderus a drud'

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, iStock

Byddai talu incwm sylfaenol cyffredinol i bawb yng Nghymru yn "arbrawf sosialaidd pryderus ac arbennig o ddrud", yn ôl economegydd.

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi dweud bod y syniad yn un "deniadol", ac y gallai helpu yn yr ymdrech i drechu tlodi ac anghydraddoldeb.

Dywedodd cefnogwyr y byddai'n helpu pobl ddi-waith sy'n pryderu y byddai cymryd swydd yn torri ar eu budd-daliadau.

Ond yn ôl yr Athro Patrick Minford o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, dyw'r syniad "ddim yn gynllun ymarferol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae sylwadau Mark Drakeford yn "eithaf pryderus i Gymru", medd yr Athro Patrick Minford

Byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn golygu bod pob person yn y wlad yn derbyn yr un swm o arian, os ydyn nhw'n gweithio ai peidio.

Ni fyddai angen unrhyw dystiolaeth bod pobl yn chwilio am gyflogaeth chwaith.

Yn Yr Alban, mae gan y polisi gefnogaeth ar draws y pleidiau, gydag ymchwil i'w ymarferoldeb eisoes ar waith.

'Treth aruthrol'

Dywedodd Yr Athro Minford, oedd yn gynghorydd i'r cyn-brif weinidog Margaret Thatcher, wrth raglen Sunday Politics Wales: "Dyw hwn ddim yn gynllun ymarferol am ei fod yn llawer rhy ddrud.

"Mae'n creu treth aruthrol, a dyw ddim yn rhoi cymhelliant i bobl gyffredin sy'n ennill mwy o arian, oherwydd nhw sy'n talu amdano."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn dweud y gallai'r cynllun helpu yn yr ymdrech i drechu tlodi

Dywedodd Mr Drakeford wrth y Cynulliad yn gynharach yn y mis ei fod o'r farn bod y syniad o incwm sylfaenol cyffredinol yn "ddeniadol yn y ffordd y gall symleiddio a chefnogi pobl sydd, ar hyn o bryd, yn ddibynnol gymysgedd cymhleth o waith rhan-amser, budd-daliadau rhan-amser ac yn y blaen".

Ond cyfaddefodd y byddai'n anodd dwyn perswâd y cyhoedd am fuddion y cynllun.

Dywedodd yr Athro Minford bod sylwadau Mr Drakeford yn "eithaf pryderus i Gymru".

"Rwy'n gobeithio na fydd Cymru'n mynd yr un ffordd a'r Alban tuag at y math yma o arbrawf sosialaidd arbennig o ddrud," meddai.

Sunday Politics Wales, BBC One Wales, 11:00 ddydd Sul.