'Angen gwahardd bwyd afiach ac ysmygu mewn ysbytai'

  • Cyhoeddwyd
Burger

Mae angen gwahardd bwydydd afiach ac ysmygu ym mhob ysbyty yng Nghymru er mwyn hyrwyddo byw'n iach, yn ôl cadeirydd BMA Cymru.

Dywedodd Dr Phil Banfield bod angen penderfynu a yw ysbytai yn "llefydd iach ai peidio".

Mae byrddau iechyd yn dweud bod gwaharddiadau ar ysmygu ar dir ysbytai yn ddiwerth oni bai bod cyfraith i'w cefnogi.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd Mesur Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud y wlad yn "esiampl" i'w dilyn.

Mae'r Fforwm Gordewdra Cenedlaethol wedi galw am waharddiad ar fwydydd afiach i gleifion, ymwelwyr a staff mewn ysbytai.

'Problemau ehangach'

Byddai'r mesur iechyd cyhoeddus yn golygu bod ysmygu ar dir ysbytai yn erbyn y gyfraith, ond yn rhoi'r pŵer i reolwyr greu mannau ysmygu os dyna'r dymuniad.

Dywedodd Dr Banfield wrth BBC Cymru bod caniatáu "prif achos marwolaeth" ar dir ysbytai yn "gwrth-ddywediad".

Ychwanegodd bod llawer o bobl yn ysmygu oherwydd eu bod wedi diflasu mewn ysbytai neu yn aros am gyfnodau hir, a bod angen cynnig mwy o gymorth i bobl roi'r gorau i ysmygu.

"Mae angen i ysbytai fod yn fwy creadigol am sut ry' ni'n hyrwyddo'r problemau ehangach yn ein cymunedau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae ffigyrau'n dangos bod gweithwyr diogelwch ym mwrdd iechyd Cwm Taf wedi gofyn i 783 o bobl i beidio ysmygu ar dir ysbytai.

Fe wnaeth chwech o bobl ymateb yn ymosodol i staff.

Rhwng Hydref 2014 a Mai 2016, cafodd 6,708 o bobl gais i beidio ysmygu y tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau yng Nghaerdydd.

'Torcalonnus'

Ers 2008, mae ysbytai wedi eu gwahardd rhag gwerthu bwydydd afiach mewn peiriannau, yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru.

Er hynny, dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf bod peiriannau yn gwerthu diodydd a bwydydd melys ym mhob un o ysbytai'r bwrdd, tra bod 34 o beiriannau tebyg yn ysbytai Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.

Dywedodd Tam Fry o'r Fforwm Gordewdra Cenedlaethol bod angen gwaharddiad llwyr ar werthu bwydydd afiach mewn ysbytai.

"Mae ysbyty yn rhywle i bobl fynd i wella, ac felly os nad oes bwydydd iach i gleifion, ymwelwyr a staff yna rydyn ni'n methu yn yr hyn sydd ei angen," meddai.

"Does ond rhaid i chi gerdded drwy'r drws i weld llefydd yn gwerthu a hyrwyddo bwydydd a diodydd melys, mae'n dorcalonnus i'r bobl sy'n gweithio yna, sy'n ceisio gwella'r bobl yma o salwch."

Dywedodd Cyfarwyddwr Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru, Vanessa Young bod safonau mewn grym i sicrhau bod cleifion yn cael bwydydd iach, ond bod "angen gwneud mwy o waith" i sicrhau bod bwydydd iach ar gael i bawb mewn ysbytai.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod cynllun ar waith i wella cyflenwad bwydydd iach mewn ysbytai.

"Rydyn ni am i bobl ddefnyddio gwasanaethau iechyd mewn amgylchedd fodern sy'n addas i'w bwrpas", meddai llefarydd.

"Mae gan nifer o'n hysbytai siopau coffi ac ati sy'n cael eu rheoli gan nifer o sefydliadau sy'n cynnig mynediad i ymwelwyr a chleifion."