Dod o hyd i weddillion dynol mewn cronfa ddŵr
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi i aelod o'r cyhoedd ddarganfod gweddillion dynol mewn cronfa ddŵr ger Casnewydd.
Mae 'na "bosibilrwydd" mai corff Sandie Bowen, gafodd ei llofruddio gan ei gŵr yn 1997, sydd wedi ei ddarganfod yng nghronfa ddŵr Coed Gwent.
Dyw gŵr Mrs Bowen erioed wedi datgelu i'r awdurdodau lle'r oedd wedi cuddio ei chorff. Ond dywed merch Mrs Bowen, Anita Giles, fod yr heddlu wedi cysylltu gyda hi gan ddweud eu bod yn cynnal arbrofion i geisio adnabod y gweddillion.
Cafodd Mike Bowen, oedd yn weithiwr mewn coedwigoedd, ei garcharu am oes yn 1998 wedi i waed a dannedd gosod ei wraig gael eu darganfod yn eu cartref yn Llaneuddogwy, Sir Fynwy.
Drwy gydol yr achos llys lle'r oedd wedi ei gyhuddo o'i llofruddio, roedd wedi gwadu unrhyw gyfrifoldeb am ei diflaniad.
Er iddo gyfaddef ei lladd yn 2003, fe wrthododd â dweud wrth yr heddlu lle'r oedd wedi cuddio ei chorff, ac roedd yr heddlu'n credu ei fod wedi ei gladdu yn fforest Coed Gwent.
Yn dilyn y darganfyddiad, dywedodd Mrs Giles fod yr heddlu wedi cysylltu gyda hi.
Dywedodd: "Maen nhw wedi cysylltu gyda fi am fod posibilrwydd mai fy mam yw e, ond ni fyddant yn gwybod tan y bydd yr awtopsi wedi ei gwblhau - ac fe all hyn gymryd dau fis."
Doedd Heddlu Gwent ddim am wneud unrhyw sylw ddydd Iau.