AC yn galw am gynllun economaidd penodol i gefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
tractorFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae AC Llafur yn galw am ddatblygu cynllun economaidd penodol ar gyfer y Gymru wledig.

Dywedodd Eluned Morgan bod Brexit yn golygu bod angen "cyfeiriad newydd" ar y byd amaeth a "gwella safon" twristiaeth.

Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno nifer o fargeinion dinas-ranbarth i hybu'r economi ddinesig.

Ond mewn datganiad ar y cyd gyda grŵp o fusnesau, dywedodd Ms Morgan nad yw'r cynlluniau hynny "yn addas nac yn berthnasol" i gefn gwlad.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw'r ardaloedd hyn yn colli cyllid yn sgil Brexit.

Maen nhw'n dweud hefyd eu bod wrthi'n "adnewyddu eu blaenoriaethau economaidd" a bod cefn gwlad yn rhan bwysig o hynny.

ZipWorldFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae twristiaeth yn rhan bwysig o'r economi wledig, ond mae angen "gwella'r safon", medd Eluned Morgan

Mae Ms Morgan a'r grŵp o fusnesau yn dweud bod angen cynllun economaidd ar frys yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd bod yn rhaid edrych ar y sector amaeth a "dechrau paratoi nawr ar gyfer ffordd newydd sy'n ffocysu ar werth ychwanegol ac yn ehangu'r drafodaeth i gynnwys y diwydiant bwyd a diod ehangach".

"Ar ben hyn, mae'n rhaid i ni weithio i wella safon twristiaeth a chymryd mantais o'r bunt nawr i ddenu ymwelwyr newydd," meddai.

"Mae nifer o sectorau wedi derbyn cefnogaeth economaidd drwy fentrau Ewropeaidd dros y blynyddoedd.

"Bydd gan golli'r gefnogaeth ychwanegol yma effaith mwy hirdymor os does dim yn dod yn ei le."

Ychwanegodd Ms Morgan bod angen mynd i'r afael â heriau fel cyflogau isel, diffyg isadeiledd a phoblogaeth sy'n heneiddio er mwyn "adeiladu economi gynaliadwy".

Effaith 'ddramatig' Brexit

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae datblygiad economaidd ein hardaloedd gwledig yn cael cefnogaeth lefelau uchel o arian yr UE ac efallai mai yma bydd yr effaith o adael yr UE i'w gweld gyflymaf ac yn y ffordd mwyaf dramatig.

"Mae'n hanfodol bod yr heriau mae ein cymunedau gwledig yn eu hwynebu yn parhau i dderbyn buddsoddiad ychwanegol - ac rydym yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i wireddu'r addewidion wnaethon nhw yn ystod ymgyrch y refferendwm na fyddai Cymru'n colli cyllid o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r UE.

"Rydym ni ar hyn o bryd yn adnewyddu ein blaenoriaethau economaidd, ac fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn sicrhau bod buddiannau gwledig yn cael eu hamddiffyn ac yn rhan bwysig wrth i Gymru weithio tuag at ddyfodol y tu allan i'r DU."