Dyblu'r 'n': Pam a phryd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyblu'r 'n': Pam a phryd

Mae ceisio darganfod beth yn union yw'r rheolau wrth ddyblu 'n' bron wedi bod yn drech na ni yn BBC Cymru Fyw ond gobeithio bod y fideo yma yn help.

Ac os ydych chi eisiau barn Geraint Lovgreen am y cyfan, gwrandewch ar y clip isod.

Roedd Geraint yn siarad ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru, ar ôl bod yn trafod ei erthygl am reolau to bach ar Cymru Fyw.

Disgrifiad,

Geraint Lovgreen yn trafod y to bach ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru

Meddai Geraint:

"Mae eisiau sgrapio dwy 'n' yn gyfan gwbl - mae'n wast o amser - wast o inc!

"Ond mae na reswm - er enghraifft y gair 'tanau', mwy nag un 'tân' ydy 'tanau' efo un 'n', mwy nag un tant - er enghraifft ar delyn - ydy 'tannau' efo dwy 'n'. Mae'r 'nt' yn troi'n 'nn'.

"Yn y de maen nhw yn gwahaniaethu, maen nhw'n dweud ta-a-anau a tanau.

"Felly maen nhw yn gwahaniaethu rhwng y sain.

"Ond fysen ni'n gallu cael gwared ar y ddwy 'nn' a rhoi to bach ar ben tânau.

"Roedd Iolo Morganwg yn sillafu ei enw efo un 'n' ond mae sir Morgannwg efo dwy 'n'.

"Eifionydd - un 'n' ond Meirionnydd dwy 'n' - mae hynny'n dangos bod yr holl beth yn ddiystyr!"