Ateb y Galw: Lyn Ebenezer
- Cyhoeddwyd
Lyn Ebenezer sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Mici Plwm yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Dianc ar draws cae i wersyll milwyr Americanaidd oedd yn paratoi ar gyfer 'D-Day'. Ro'n i'n bedair oed. Cofiaf un milwr â dagrau yn ei lygaid yn dal llun o blentyn bach fel fi. Ceisiodd fy nghymell i'w gôl. Gwrthodais. Ymhen blynyddoedd deallais iddo ef a'i gyd-filwyr yn y gwersyll gael eu lladd i gyd ar Draeth Omaha.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Natalie Wood ar ôl gweld Rebel Without a Cause. Rwy'n dal mewn cariad â hi.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gweithio i'r Cymro yn 1969 yng nghyfarfod ffarwel yr Athro Thomas Parry fel Prifathro Coleg Aber. Y ffotograffydd yn gofyn i mi nôl gwraig y Prifathro er mwyn tynnu ei llun gyda'i gŵr. Honno'n amharod iawn i ddod. Ei hanner llusgo draw. Yna canfod mai Ledi Edwards oedd hi.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Y tro diwethaf i Arsenal golli. Byddaf yn crio'n aml.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Chwyrnu. Medrwn ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol am chwyrnu.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ystrad Fflur. Yno, fel T. Gwynn Jones, 'o'm dolur ymdawelaf'.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson dathlu geni Dylan gyda Dewi Pws. Cafodd Dewi weld y baban newydd-anedig o'm blaen i drwy dwyllo'r fydwraig mai ef oedd y tad.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Diamynedd. Ystyfnig. Sentimental (gyda'r pwyslais ar yr ail sillaf).
Beth yw dy hoff lyfr?
'It' gan Stephen King.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Wil Sam, y dyn difyrraf i mi ei adnabod erioed. Athrylith doniol a'r anwylaf o ddynion.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Mae hynny mor bell yn ôl, mae'n rhaid mai ffilm ddu a gwyn oedd hi. Un o ffilmiau Laurel and Hardy mwy na thebyg.
Mae'n rhaid i mi weld aml un yn ddiweddarach, ond fedra'i ddim mo'u cofio. Film buffs yw'r bobl mwyaf boring dan haul.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Marw. Ond cyn hynny gwrando ar Bob Dylan yn Ystrad Fflur gyda photel o wisgi Penderyn.
Dy hoff albwm?
'Blood on the Tracks' gan Bob Dylan.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - be fyddai'r dewis?
Pwdin bob tro. Ar fy ngwyliau ym Majorca unwaith cofiaf hepgor y cwrs cyntaf a'r prif gwrs er mwyn bwyta chwech pwdin. Pwdin Bara wedi ei baratoi gan Jên y wraig yw'r ffefryn.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Cariad Jennifer Aniston, pwy bynnag yw'r diawl lwcus hwnnw.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Emyr Huws Jones.