Shwn a siarad Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Bydd cerddoriaeth Gymreig o bob math yn cael ei dathlu ar Ddydd Miwsig Cymru ar 10 Chwefror. Mae'r gallu i ganu a chwarae offerynnau wedi rhoi llwyfan i nifer fawr o bobl ddiddanu cynulleidafoedd ar hyd a lled y wlad a thu hwnt. I rai artisitaid mae'r cyfle hefyd wedi eu hysgogi i feithrin perthynas agosach gyda'r diwylliant ac i ddysgu'r iaith Gymraeg.
Yn eu plith mae Gregg Lynn. Cafodd Gregg ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg yng Nglyn Ebwy ond daeth i'r amlwg fel lleisydd dau o fandiau mwyaf y 70au a'r 80au - Shwn i ddechrau ac yn ddiweddarach Yr Hwntws.
Mae Gregg yn cymryd rhan yn ymgyrch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, dolen allanol ar Ddiwrnod Miwsig Cymru i geisio annog rhagor o bobl i ddysgu'r iaith.
Bu'n sôn sut yr aeth ati i ddysgu Cymraeg:

Fe es i i Brifysgol Keele yn ystod y 1960au ac mi 'nes i gwrdd â llawer o Gymry Cymraeg yn y clwb rygbi ac ati, ac roedden nhw'n canu caneuon Cymraeg. Nes i benderfynu mynd ati i ddysgu'r iaith drwy ddarllen llyfrau ar fy mhen fy hun, ond roedd hynny braidd yn anodd.
Ar ôl gweithio am dair blynedd yn Lloegr a chael 'pwl o hiraeth', penderfynais fynd i fyw yng Nghaerdydd gydag Annie, fy ngwraig, a dyna ddechrau ar fy nhaith i ddysgu'r iaith. I ddechrau roedden ni'n mynd unwaith yr wythnos i ddosbarth Cymraeg, ac yna fe wnaethon ni ddilyn cwrs dwys bob nos am dri mis.

Gregg yn perfformio gyda'r Hwntws
Dysgu geirfa gyda Edward H
Pan ddechreuon ni ddysgu'r Gymraeg ar ddechrau'r 1970au, roedd hi'n gyfnod cyffrous iawn i'r sîn roc Gymraeg. Ro'n i wrth fy modd gyda recordiau Edward H Dafis, ac roeddwn i a'm gwraig yn canu'r caneuon drosodd a throsodd. Wrth eu dysgu, roedden ni hefyd yn edrych yn y geiriadur, ac felly roedd gyda ni eirfa newydd yn syth.
Dw i'n credu bod cerddoriaeth yn ffordd wych o ddysgu iaith - mae'n haws dysgu geiriau cerdd (a chofio'r treigliadau hefyd!). Roedd grwpiau Mynediad am Ddim, Injaroc, Endaf Emlyn, Plethyn a llawer mwy yn ddylanwad arna' i hefyd.
Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan fawr o'm bywyd i. Ymunais â grŵp Cymraeg Shwn yn y saithdegau, ac erbyn yr wythdegau roeddwn i wedi ffurfio band Yr Hwntws i ganolbwyntio ar recordio caneuon gwerin de Cymru, sy'n adlewyrchu tafodiaith y Wenhwyseg.
Mae Annie a minnau wedi cael boddhad mawr wrth ddysgu'r iaith, ac wedi medru pasio'r iaith ymlaen i'r genhedlaeth nesaf. Roedd medru canu hwiangerddi Cymraeg a mwynhau Cwm Rhyd y Rhosyn gyda'n dwy ferch yn braf, ac erbyn hyn mae ein hwyres, Awen, sy'n 5 oed, wrth ei bodd gyda chaneuon Cyw a Dona Direidi.


Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Miwsig Cymru 2017 bydd Huw Stephens yn cyflwyno awr olaf rhaglen Tudur ar BBC Radio Cymru, 10 Chwefror