Pier Bae Colwyn i gael ei ddatgymalu a'i storio
- Cyhoeddwyd

Bydd pier Bae Colwyn yn cael ei ddatgymalu a'i storio wedi i ran ohono ddisgyn i'r môr.
Roedd y strwythur Fictoraidd eisoes wedi ei gau i'r cyhoedd am resymau diogelwch pan ddisgynnodd rhan ohono ar 1 Chwefror.
Nawr mae Cyngor Sir Conwy ac Ymddiriedolaeth Fictoraidd Colwyn wedi cytuno y dylid ei dynnu i lawr cyn i fwy o ddifrod gael ei wneud.
Y bwriad yw atgyweirio ac adfer y pier rywbryd yn y dyfodol.

Mae ardal waharddiedig o amgylch y pier
Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn ystyried adroddiad ar sut i wneud y strwythur sydd yn weddill yn saffach.
Dywedodd prif weithredwr Cyngor Sir Conwy, Iwan Davies bod disgwyl penderfyniad ar y pier rhestredig Gradd II "yn fuan iawn".
Gobaith yr Ymddiriedolaeth yw gweld y pier yn cael ei ailddatblygu yn hwb ar gyfer "bwyd, diod a digwyddiadau".
Mae disgwyl i'r cyngor ystyried cynigion ar gyfer y pier cyn diwedd mis Mawrth.
