Barnu 'diffyg uchelgais' cynlluniau Cymraeg mewn addysg

  • Cyhoeddwyd
Strategaethau

Fydd strategaethau Cymraeg mewn addysg cynghorau lleol ddim yn arwain at gynnydd mewn darpariaeth, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Mewn llythyr swyddogol at weinidog y Gymraeg, Alun Davies, mae Meri Huws yn cyhuddo'r cynghorau o "ddiffyg uchelgais" yn eu cynlluniau.

Mae'n rhaid i bob cyngor baratoi dogfen yn amlinellu eu cynlluniau ar gyfer addysg cyfrwng Gymraeg rhwng 2017 a 2020.

Daw sylwadau Ms Huws yn fuan wedi i fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg rybuddio bod "gwahaniaeth mawr rhwng uchelgais y cynlluniau ac uchelgais y llywodraeth".

Fe ddywedodd Mr Davies y byddai'n herio unrhyw strategaeth sydd ddim yn ddigon uchelgeisiol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r "diffyg uchelgais" yn y cynlluniau yn tanseilio ymdrechion y llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ôl Meri Huws

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd addysg wrth geisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ond mae'r comisiynydd yn dweud na fydd cynlluniau'r cynghorau'n helpu i wneud hynny.

"Ni chredaf bydd mwyafrif y cynlluniau hyn yn arwain at gynnydd arwyddocaol yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg na'r nifer o blant a phobl ifanc sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg", meddai yn y llythyr gafodd ei anfon ar 31 Ionawr., dolen allanol

"O'r herwydd, ni welaf sut bydd y cynlluniau hyn yn cyfrannu'n ystyrlon at gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg."

Ychwanega: "Er i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pedwerydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru argymell y dylai cynlluniau strategol adlewyrchu amcanion cenedlaethol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, roedd y cynlluniau drafft a welwyd yn ddi-uchelgais. "

'Darlun llawn'

Dywedodd Mr Davies y byddai'n trafod gyda chynghorau "unwaith 'dyn ni'n gwybod beth yw'r darlun llawn."

Ychwanegodd mewn datganiad ei fod yn disgwyl cynlluniau trylwyr ac uchelgeisiol, ac y byddai'n herio unrhyw strategaethau sydd ddim yn dangos digon o uchelgais.

Fe ddywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mai'r cynghorau unigol sy'n gyfrifol am y strategaethau, ond bod llywodraeth leol ar y cyfan yn "rhannu uchelgais" y llywodraeth am addysg.

Dywedodd y corff hefyd y byddan nhw'n hapus i gwrdd â'r comisiynydd "i drafod ei safbwynt".