AC yn ceisio newid hysbyseb swydd er mwyn helpu'i brawd

  • Cyhoeddwyd
Michelle Brown
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Michelle Brown ei hethol i'r Cynulliad yn 2016

Fe wnaeth AC drafod gyda swyddog o'r Cynulliad ynglŷn â sut oedd modd newid geiriad hysbyseb am swydd yn ei swyddfa, er mwyn helpu ei brawd.

Roedd Michelle Brown, o UKIP, wedi trafod gyda swyddog os oedd modd israddio'r cymwysterau oedd eu hangen er mwyn gweithio iddi.

Mewn datganiad, dywedodd Ms Brown ei bod hi wedi dilyn cyngor Comisiwn y Cynulliad - yr awdurdod sy'n gyfrifol am gynorthwyo aelodau ym Mae Caerdydd.

Mae BBC Cymru yn deall na chafodd brawd Ms Brown ei benodi.

Roedd Ms Brown, AC Gogledd Cymru, yn chwilio am dderbynnydd a chynorthwyydd personol yn ei rhanbarth, gyda chyflog rhwng £18,536 a £24,593.

Mewn datganiad dywedodd Comisiwn y Cynulliad: "Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am gynorthwyo Aelodau'r Cynulliad â'r gwaith o ddethol a recriwtio staff cymorth gweinyddol angenrheidiol i'w helpu yn eu gwaith.

"Mae hyn yn cynnwys deall anghenion cymorth penodol yr Aelod dan sylw a chynghori ar fanylebau swyddi yn unol â'r polisi recriwtio.

"Datblygwyd y polisi recriwtio gan roi ystyriaeth i benderfyniadau'r Bwrdd Taliadau, cyfrifoldebau statudol ac arferion gorau. Mae'r egwyddorion sydd ynghlwm wrth gystadleuaeth deg ag agored seiliedig ar deilyngdod yn berthnasol i bob swydd sy'n cael ei hysbysebu ar gyfer staff cymorth Aelodau'r Cynulliad.

"Dim ond pan nad yw'r Aelod yn cymryd unrhyw ran yn yr asesiad a'r cyfweliadau y caniateir penodi aelodau o deulu'r Aelod Cynulliad sy'n cyflogi. Cynhelir y rhain gan y tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau yn lle hynny."

Diystyru cyn y cyfweliadau

Mewn neges iddi, fe ddywedodd swyddog y Comisiwn, y byddai cadw'r cymwysterau yn y swydd-ddisgrifiad gwreiddiol yn golygu y byddai'i brawd Richard yn cael ei ddiystyru cyn y cyfweliadau.

"Ydych chi eisiau i mi newid e i radd C neu yn uwch yn Saesneg?"

Fe ofynnodd Ms Brown os oedd yn bosibl i'r cymhwyster gael ei "israddio o hanfodol i fanteisiol".

Ysgrifennodd y swyddog bod yn rhaid cynnwys rhai cymwysterau hanfodol, gan ychwanegu: "Ydych chi eisiau gair gyda Richard er mwyn gweld pa gymhwyster sydd ganddo?"

Wrth ateb, awgrymodd Ms Brown y dylid gofyn am radd C mewn TGAU Saesneg a Mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol.

Ar ôl iddi gael ei hethol flwyddyn ddiwethaf, fe weithiodd brawd Ms Brown iddi dros dro, yn delio gyda materion yn yr etholaeth.

Gall aelodau'r Cynulliad benodi staff am hyd at chwe mis heb hysbysebu'r swydd yn ffurfiol.

Ar ôl hynny, mae'n rhaid hysbysebu'r swydd drwy'r Comisiwn.

Er bod hawl ganddyn nhw i gyflogi aelodau teulu, dyw aelodau'r Cynulliad ddim yn cael eistedd ar y panel cyfweld.

Mae 12 o ACau wedi datgan eu bod nhw'n cyflogi aelodau o'u teuluoedd.

'Cystadlu agored'

Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd Ms Brown: "Fe wnes i benodi Richard ar ôl cael fy ethol i'r Cynulliad, gan fy mod angen rhywun i ddelio ar unwaith â materion etholaethol.

"Mae cyfrinachedd a theyrngarwch personol yn elfennau hanfodol yn y swydd-ddisgrifiad i holl aelodau staff ACau.

"Pan ddaeth ei gontract dros dro i ben, ni chafodd ei ail-benodi."

Dywedodd bod Comisiwn y Cynulliad yn chwarae rhan bwysig wrth greu disgrifiad swydd a bod 'na gystadlu agored.

Mae'r corff yn cyfweld ymgeiswyr yn annibynnol o ACau, meddai.

Ychwanegodd ei bod hi wedi dilyn cyngor y Comisiwn "ar bob achlysur perthnasol" ac wedi ymddwyn yn "gwbwl briodol".

Fe awgrymodd bod honiadau i'r gwrthwyneb wedi eu gwneud gan rywun tu fewn ei phlaid oedd yn ei gwrthwynebu.