Cyn-dditectif yn ennill iawndal yn achos Daniel Morgan
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-dditectif wedi ennill iawndal gan Heddlu Llundain ar ôl i'r Uchel Lys ddod i'r casgliad ei fod wedi ei gyhuddo ar gam o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn ystod yr ymchwiliad i lofruddiaeth dyn o dde Cymru.
Penderfynodd y barnwr nad oedd yr honiadau yn erbyn tri dyn arall oedd wedi eu cyhuddo o lofruddio Daniel Morgan yn dal dŵr chwaith.
Cafodd Mr Morgan o Lanfrechfa, oedd yn ymchwilydd preifat, ei ladd yn Llundain yn 1987.
Y dyfarniad oedd bod y cyn-dditectif, Sidney Fillery, wedi ei gyhuddo ar sail tystiolaeth gan "lygad tyst annibynadwy".
Bydd Fillery, gafodd ei ganfod yn euog mewn achos arall o lawr lwytho delweddau o blant yn cael eu cam-drin, nawr yn gallu gwneud cais am arian iawndal gan yr heddlu.
Sawl ymchwiliad
Daw'r achos yma yn dilyn cyfres o ymchwiliadau aflwyddiannus gan yr heddlu i lofruddiaeth Mr Morgan.
Yn ystod y 1990au a'r 2000au roedd cyfres o ymchwiliadau gan yr heddlu ac yn 2011 cafodd Jonathan Rees, oedd yn gweithio gyda Mr Morgan, a dau frawd - Glenn a Gary Vian - eu cyhuddo.
Ond cafodd yr achos ei ollwng.
Un o'r problemau oedd bod un uwch swyddog heddlu, yr Uwcharolygydd David Cook, wedi bod mewn cysylltiad amhriodol gyda llygad dyst ac wedi cuddio hyn rhag yr erlyniad.
O ganlyniad dywedodd Fillery, Mr Rees a Glenn a Gary Vian bod Heddlu'r Met wedi eu herlyn yn faleisus.
Dywedodd y barnwr fod yr Uwcharolygydd Cook wedi cadw gwybodaeth yn ôl oddi wrth y CPS ynglŷn â'i gysylltiad gyda'r llygad dyst yn "fwriadol",a bod hyn yn gyfystyr â "chamweithrediad mewn swydd gyhoeddus".
Casgliad arall y barnwr oedd y byddai'r erlyniad wedi digwydd, hyd yn oed os byddai'r dystiolaeth gan y llygad dyst wedi ei adael allan.
Ond dywedodd mai sail erlyniad Fillery oedd tystiolaeth y llygad dyst ac felly y byddai yn annheg i'w erlyn.
Dim datrysiad
Mae achos Mr Morgan yn parhau heb ei ddatrys ac mae adolygiad annibynnol wedi'i sefydlu gan y Swyddfa Gartref.
Mewn datganiad dywedodd brawd Mr Morgan, Alistair bod yr achos yma yn canolbwyntio ar "ddull o reoli'r Uwcharolygydd David Cook".
"Beth bynnag fydd canlyniadau'r dyfarniad yma, rydyn ni yn ystyried y byddai anghyfiawnder yn digwydd pe byddai David Cook yn cael dod yn fwch dihangol ar gyfer methiannau Heddlu'r Met dros ddegawdau i beidio delio gyda llygredd yr heddlu sydd yn rhan ganolog o'r achos," meddai.