Gwobrau'r Selar: Dros 1,000 yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Y Bandana, oedd prif enillwyr Gwobrau'r Selar eleni.
Cipiodd y grŵp o Wynedd, a chwalodd yn Hydref 2016, bedair o brif wobrau'r noson - Record Hir Orau, Gwaith Celf Gorau, Cân Orau a'r Band Gorau.
Nid dyma'r flwyddyn gyntaf i'r grŵp ddod i'r brig ar y noson, gan eu bod wedi ennill teitl 'Band Gorau' deirgwaith yn y gorffennol - yn 2010, 2011 a 2012.
Roedd noson Gwobrau'r Selar yn cael ei chynnal am y pumed flwyddyn yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Yn perfformio ar y noson roedd Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, CaStLeS, HMS Morris, a Gwilym Rhys.
Fe gafodd yr artist Yws Gwynedd noson lwyddianus hefyd yn cipio dwy wobr sef 'Fideo Cerddoriaeth Gorau' am fideo ei sengl 'Sgrin', gan hefyd ennill teitl 'Artist Unigol Gorau' am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Roedd yn noson gofiadwy iawn i'r grŵp ifanc o Bwllheli, Ffracas, wrth iddyn nhw gipio'r wobr am y 'Band neu Artist Newydd Gorau' yn ogystal â 'Record Fer Orau' am eu EP cyntaf, Niwl.
Dywedodd trefnydd Gwobrau'r Selar, Owain Schiavone ar y noson: "Teg dweud bod heno wedi bod yn noson gofiadwy arall, ac mae mor braf gweld dros 1,000 o bobl yn dod ynghyd i ddathlu llwyddiant y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg."
Enillwyr llawn Gwobrau'r Selar 2016:
Cân Orau: Cyn i'r Lle Ma Gau - Y Bandana
Hyrwyddwr Gorau: Maes B
Cyflwynydd Gorau: Lisa Gwilym
Artist Unigol Gorau: Yws Gwynedd
Band Newydd Gorau: Ffracas
Digwyddiad Byw Gorau: Maes B
Offerynnwr Gorau: Osian Williams
Gwaith Celf Gorau: Fel Tôn Gron - Y Bandana
Band Gorau: Y Bandana
Record Hir Orau: Fel Tôn Gron - Y Bandana
Record Fer Orau: Niwl - Ffracas
Fideo Cerddoriaeth Gorau: Sgrin - Yws Gwynedd