Lluniau: Gwobrau'r Selar 2017
- Cyhoeddwyd
Roedd Nos Sadwrn 18 Chwefror yn noson fawr i gerddoriaeth Gymraeg wrth i bumed Gwobrau'r Selar gael ei gynnal yn Aberystwyth.
Y Bandana, sydd bellach wedi chwalu, oedd enillwyr mwya'r noson gan gipio pedair gwobr.
Dyma rai o uchafbwyntiau'r noson mewn lluniau:




Ffracas oedd y Band Newydd Gorau. Fe enillodd y grŵp o Bwllheli wobr y Record Fer Orau hefyd

Cyfleus iawn!

Cowbois Rhos Botwnnog, un o'r bandiau oedd yn perfformio ar y noson

Derbyniodd Geraint Jarman wobr Cyfraniad Arbennig

Osian o'r Candelas - yr Offerynnwr Gorau - yn denu ymateb y dorf

Does ryfedd eu bod nhw'n gwenu. Pedair gwobr i'r Bandana

CaStLeS, un o artistiaid prosiect Gorwelion, yn perfformio ar y noson

Am y drydedd flwyddyn yn olynnol Yws Gwynedd oedd yr Arist Unigol Gorau. Derbyniodd y wobr hefyd am y Fideo Cerddoriaeth Gorau gan Rhodri ap Dyfrig o S4C (enillydd crys mwyaf llachar y noson dybed?)

Enillwyr Gwobrau'r Selar 2016:
Cân Orau: Cyn i'r Lle Ma Gau - Y Bandana
Hyrwyddwr Gorau : Maes B
Cyflwynydd Gorau: Lisa Gwilym
Artist Unigol Gorau: Yws Gwynedd
Band Newydd Gorau: Ffracas
Digwyddiad Byw Gorau: Maes B
Offerynnwr Gorau: Osian Williams
Gwaith Celf Gorau: Fel Tôn Gron - Y Bandana
Band Gorau: Y Bandana
Record Hir Orau: Fel Tôn Gron - Y Bandana
Record Fer Orau: Niwl - Ffracas
Fideo Cerddoriaeth Gorau: Sgrin - Yws Gwynedd