Dioddefwyr twyll 'wedi colli £2.6m' yn y blynyddoedd diwethaf

  • Cyhoeddwyd
Sgam

Mae dioddefwyr yng Nghymru wedi colli mwy na £2.6m trwy dwyll yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Action Fraud, a'r henoed sy'n cael eu targedu waethaf.

Ond mae Safonau Masnach yn rhybuddio bod y nifer o bobl sydd wedi eu heffeithio yn debygol o fod 10 neu 20 gwaith yn uwch na'r ffigwr yma, gan nad yw llawer yn dweud wrth yr awdurdodau.

Collodd un unigolyn o ogledd Cymru dros £100,000 o'i gynilion trwy dri chynllun buddsoddi gwahanol.

Mae'r heddlu yn dweud bod gofalwyr angen bod yn ymwybodol o'r arwyddion bod aelodau teuluoedd yn cael eu targedu.

£32,000 ar gyfartaledd

Mae ymchwil gan Action Fraud a Heddlu'r Met yn Llundain yn awgrymu bod 77% o ddioddefwyr twyll buddsoddi yn ddynion, a'r oed cyfartalog yw 65.

Ar gyfartaledd maen nhw'n colli £32,000.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alison Farrar yn dweud bod cwmnïau yn fodlon gwneud neu ddweud unrhywbeth er mwyn cael arian pobl

Yn ôl y swyddog Safonau Masnach Alison Farrar, mae sgamiau yn gallu dechrau pan mae person yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ac yn anfon ychydig o arian i ffwrdd i hawlio gwobr.

Ond mae'r sefyllfa yn gallu tyfu fel caseg eira.

Dywedodd: "Mi ydyn ni yn adnabod pobl sydd wedi colli popeth. Mae eu tai yn berchen i rywun arall am eu bod wedi eu perswadio i gymryd rhan mewn cynllun rhyddhau ecwiti mewn eiddo.

"Ac mae hynny'n golygu eu bod nhw'n poeni yn eu henaint ynglŷn ag aros yn eu cartrefi."

Bydd rhai cwmnïau yn gwneud popeth posib i berswadio pobl i roi arian, gan dreulio misoedd yn eu hargyhoeddi bod eu cynigion yn ddiffuant.

Fe gollodd un dyn o Sir Fôn dros £100,000 trwy dri chynllun gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r diemwntau wnaeth y dioddefwr o Sir Fôn brynu gan obeithio y byddai modd eu gwerthu am bris uwch

Gydag un o'r sgamiau fe brynodd bum diemwnt am chwech neu saith gwaith eu gwerth, gan feddwl y bydden nhw yn codi yn eu gwerth dros amser.

Mae am aros yn anhysbys am nad yw wedi dweud wrth ei deulu.

Esboniodd y dyn: "O'n i yn wirion ond mi oedden nhw mor gyfeillgar. Fe ddywedodd un dyn wrtha i fod ei wraig wedi colli babi. Mi oedd o'n crio ar y ffôn.

"Mi oedd wedi dweud wrth ei benaethiaid y byddai yn gwerthu'r diemwnt. 'Oedd o isio £1,000. O'n i methu talu hynny ond o'n i yn gallu fforddio £500.

"Nes i anfon £500. Trwy beidio talu am y diemwnt o'n i yn teimlo mod i yn ei siomi. Meddyliwch bod mor wirion ac anfon £500."

Fe brynodd bum diemwnt oedd yn amrywio o £3,000 i £18,000 ond maen nhw wedi eu prisio llawer yn llai.

Twyll $2.9m

Ym mis Awst y llynedd cafodd Martin Rhys-Jones o Gaerdydd ei garcharu am chwe blynedd gan lys yn America ar ôl cyfaddef i 'lanhau' arian mewn twyll gwerth $2.9m.

Roedd yr achos yn y penawdau am fod ei ferch, Emma, wedi dyweddïo gyda phêl-droediwr Real Madrid, Gareth Bale, a'i ferch arall, Charlotte, yn gariad i'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Taulaupe Faletau.

Roedd Nigel Cash o Gaint yn un o'r 250 o bobl wnaeth ddioddef yn sgil twyll Rhys-Jones. Fe brynodd gwerth £5,000 o gyfranddaliadau oedd bron yn ddi-werth.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Nigel Cash mae yna ddiwydiant cyfan sydd yn ffonio pobl i'w perswadio i fuddsoddi mewn pethau di-werth

10 mlynedd ers iddo brynu'r cyfranddaliadau cyntaf mae'n dal i gael galwadau.

Dywedodd: "Yr effaith ydy eich bod chi'n dod yn darged. Chi'n cael mwy o alwadau ffôn achos chi wedi prynu un set o gyfranddaliadau ac maen nhw wedyn yn meddwl bod chi'n hawdd i'ch twyllo.

"Dwi wedi cael sgyrsiau gwahanol gyda rhai yn trio rhoi pwysau arna i brynu a thro arall wedi ffraeo gyda nhw am fy mod i yn gwrthod buddsoddi mwy ac maen nhw yn troi'n ymosodol."

'Newid bywydau'

Dywedodd yr Uwch Arolygydd David Manley o Heddlu'r Met yn Llundain bod hi'n bwysig lledaenu gwybodaeth sut i atal trosedd fel hyn, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig.

"Da ni'n sôn am filiynau [yn cael eu colli]. Mae'n swm mawr o arian ar gyfer pobl sydd yn buddsoddi sydd yn dod i ddiwedd eu cyfnod gweithio. Dydyn nhw ddim mewn sefyllfa i allu ailgodi ar eu traed.

"Mae'n newid bywydau pobl."