Ymchwiliad i weinyddiaeth canolfan achub anifeiliaid
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi cychwyn i weinyddiaeth canolfan achub anifeiliaid ger Yr Wyddgrug.
Y Comisiwn Elusennau sydd yn ymchwilio, a hynny ar ôl i ymweliad â'r lloches ddatgelu nifer o faterion "difrifol".
Mae ymddiriedolwyr yr elusen yn dweud eu bod yn cydweithredu gyda'r comisiwn.
Dywedodd y corff eu bod wedi rhoi cyngor a chanllawiau i'r ymddiriedolwyr ynglŷn â sut i wella'r ffordd maen nhw'n rheoli'r elusen.
'Diffyg trefn ariannol'
Yn ôl llefarydd roedd y comisiwn wedi ymweld â'r lloches ym mis Hydref 2016, ac wedi edrych ar eu llyfrau a monitro os oedden nhw'n cydymffurfio gyda'u canllawiau.
Fe wnaethon nhw ddarganfod "materion rheoleiddio difrifol" gan gynnwys methiant i warchod asedau'r elusen a pheidio rheoli materion ariannol yn ddigonol.
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar weinyddiaeth, llywodraethant a rheolaeth yr elusen.
Byddant hefyd yn ymchwilio os yw ymddiriedolwyr yr elusen wedi elwa heb gael awdurdod i wneud hynny.
Cwestiwn arall y byddan nhw'n ei ofyn fydd a yw'r ymddiriedolwyr wedi gweithredu eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau yn gywir.
Er mwyn gwarchod asedau'r elusen mae'r comisiwn wedi rhewi cyfrifon banc yr elusen.
Mewn datganiad dywedodd ymddiriedolwyr Capricorn Animal Rescue: "Mae'r ymddiriedolwyr yn ymwybodol o'r ymchwiliad ac yn cydweithio gyda'r Comisiwn Elusennau ar y mater yma."
Ym mis Rhagfyr fe ddatgelodd rhaglen BBC Cymru, Week In Week Out bod y safonau yn y lloches yn wael.
Mae'r comisiwn yn dweud eu bod yn ymwybodol o bryderon gan y cyhoedd ynglŷn â lles yr anifeiliaid, ond nad yw hynny'n rhan o'u cylch gorchwyl.
Dylai unrhyw bryderon gael eu cyfeirio at y RSPCA, medden nhw.