Achosion canser wedi codi dros gyfnod o ddeg mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yr achosion o ganser yng Nghymru wedi codi bron 10% dros gyfnod o ddeg mlynedd.
Cafwyd 19,088 diagnosis yn 2015, o'i gymharu â 17,389 yn 2006.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, y prif reswm dros y cynnydd yn y ddegawd ddiwethaf yw'r boblogaeth sy'n heneiddio.
Roedd yna gwymp bychan o'r 19,826 o achosion yn 2014 ond mae ffigwr 2015 yn debygol o gael ei ddiwygio a chynyddu dros amser.
Ar ôl ystyried ffactorau oedran, roedd cwymp o fwy na 5% mewn dynion ond cynnydd o fwy na 5% ymhlith menywod rhwng 2006 a 2015.
Rhan o'r rheswm am hyn yw bod cyfradd canser yr ysgyfaint wedi disgyn ond ar gynydd ymysg merched.
Canser y fron, y prostad, ysgyfaint a'r coluddyn sydd yn parhau i fod fwyaf cyffredin.
Gwelwyd y cynnydd mwyaf yng nghanran yr achosion o ganser yr iau, ceg, gwddf, a melanoma y croen, gyda chynnydd o draean hefyd yn y cyfraddau mesothelioma.
Roedd cwymp yn y cyfraddau o ganser y stumog a'r prostad.
'Modd osgoi'
Dywedodd Dr Dyfed Wyn Huws o Iechyd Cyhoeddus Cymru: ""Rydyn ni'n gwybod y gallai hyd at bedwar ym mhob 10 canser yn y boblogaeth fod yn rai y mae modd eu hosgoi."
Ychwanegodd bod y gostyngiad yn nifer y bobl sy'n ysmygu wedi lleihau cyfraddau, ond bod angen mwy o waith mewn meysydd fel gordewdra.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r ffactorau y mae modd eu rheoli allai arwain at ganser yn cynnwys defnyddio tybaco, yfed alcohol, gordewdra, pelydrau UV o'r haul a gwlâu haul, diffyg ymarfer corff, a diffyg ffibr, ffrwythau a llysiau yn y diet.
Fe allai canser hefyd ddeillio o heintiau megis HPV, a pheryglon yn y gweithle fel dod i gysylltiad ag asbestos.