Esgob Llandaf: Dim penodiad wedi tridiau o drafod

  • Cyhoeddwyd
cadeirlan Llandaf

Mae coleg etholiadol yr Eglwys yng Nghymru wedi methu â chytuno ar bwy fydd esgob newydd Llandaf.

Ar ôl cyfarfod am dridiau daeth datganiad gan yr Eglwys yn dweud: "Ni chafodd yr un o'r ymgeiswyr dan sylw y nifer o bleidleisiau angenrheidiol i gael ei ethol, sef dwy ran o dair o fwyafrif.

"O dan amodau Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru mae'r cyfrifoldeb o ddewis esgob newydd felly'n disgyn ar ysgwyddau Mainc yr Esgobion."

Dywedodd Llywydd y Coleg Etholiadol - Esgob Abertawe ac Aberhonddu, y Gwir Barchedig John Davies - y bydd y broses sy'n arwain at benodi yn y pen draw yn cynnwys ymgynghoriad eang o glerigwyr a lleygwyr ar draws yr Eglwys yng Nghymru.

Fe ddaw'r broses yn dilyn ymddeoliad y Parchedicaf Barry Morgan ar 31 Ionawr ar ôl 17 mlynedd yn y swydd.

Dyma'r ail waith yn unig i'r Eglwys yng Nghymru fethu â dod i benderfyniad wrth ddewis esgob newydd, a hynny yn dilyn methiant i gytuno ar esgob newydd i Fangor yn 2004.

Chwe wythnos yn ddiweddarach fe benderfynodd mainc yr esgobion benodi Anthony Crockett - oedd yn ddewis dadleuol ar y pryd gan ei fod wedi ysgaru ac ailbriodi.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru