Ymgyrch i ailgylchu 75% o wastraff bwyd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd ymgyrch newydd sy'n defnyddio symbol banana yn ceisio annog Cymry i ailgylchu 50% yn rhagor o'u gwastraff bwyd nag y maen nhw'n gwneud ar hyn o bryd.
Dywedodd Ailgylchu Dros Gymru - ymgyrch sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru - bod Cymru eisoes yn ailgylchu hanner ein gwastraff bwyd ac yn "arwain y DU", ond mae angen gwneud mwy.
Fe fydd pobl yn gwisgo siwtiau banana ar gyfer lansiad yr ymgyrch ddydd Gwener ym Mhontypridd.
Y rheswm dros ddewis banana yw bod 240,000 tunnell o grwyn bananas yn cael eu taflu, ac fe allai hynny greu ynni.
Yn ôl Ailgylchu Dros Gymru, mae un cynhwysydd o wastraff bwyd yn gallu cynhyrchu digon o ynni i wylio gêm bêl-droed gyfan ar y teledu.
'Bywyd newydd'
Dywedodd Angela Spitteri ar ran yr ymgyrch: "Pan ry'n ni'n gofyn i bobl Cymru pam nad ydyn nhw'n ailgylchu eu gwastraff bwyd, maen nhw'n dweud fod hynny am nad ydyn nhw'n credu eu bod yn cynhyrchu digon i drafferthu gwneud.
"Dyw eitemau fel bagiau te, plisgyn wy, crwyn tatws ac, wrth gwrs, crwyn banana ddim yn fwytadwy, ond mae modd eu hailgylchu i gyd.
"Dyna pam yr ydym am dynnu sylw pobl at y mathau yma o fwyd - i atgoffa pawb y gallwn ni ailgylchu pob math o wastraff bwyd a rhoi bywyd newydd iddo fel ynni."
Mae oddeutu 210,000 tunnell o wastraff bwyd o'r cartref yn mynd i safleoedd tirlenwi ar draws Cymru, ac mae hynny'n cyfrannu at greu'r nwy tŷ gwydr methan.
Yn ôl Ailgylchu Dros Gymru, pe byddai'r gwastraff bwyd yna'n cael ei ailgylchu, fe allai'r methan gael ei harnesu a'i droi'n ynni.