Byw bywyd llawn

  • Cyhoeddwyd
Ceridwen HughesFfynhonnell y llun, Ceridwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Kate, sydd wrth ei bodd gyda'r cyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria

Tynnu sylw at yr hyn y gall unigolion sydd ag anawsterau dysgu eu cyflawni sydd wrth wraidd prosiect celfyddydol newydd "We can..." yn y gogledd.

Nod elusen Same But Different yw defnyddio ffotograffiaeth, fideo ac erthyglau er mwyn galluogi pobl i ddod i 'nabod y personoliaethau y tu ôl i'r anabledd. Mae rhai o'r oedolion sy'n cymryd rhan yn fyfyrwyr yng Ngholeg Cambria.

Mae Syndrom Down's ar Kate Siseman, sy'n 36 oed o Fwcle.

"Fy hoff gwrs yw swyddfa a'r cyfryngau oherwydd, yn ystod y wers honno, mae 'na gyfle i wneud pob math o bethau ac rwy'n hoffi cyfrifiaduron," meddai. "Rwy'n caru'r ffaith fy mod i'n gallu gwrando ar gerddoriaeth wrth deipio. Mae'n help i glirio fy meddwl.

Angen help ar bawb

"Petai'n rhaid i mi ddisgrifio fy hun i rywun mi fuaswn i'n dweud fy mod i'n glyfar, caredig, yn gofalu am eraill ac yn hynod o gymdeithasol. Rwy'n edrych i wneud ffrindiau gyda phobl sydd â phersonoliaeth dda."

Un arall sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect yw Scott Morris, 20 oed o Lannau Dyfrdwy. Mae ganddo fo anghenion dysgu.

"Weithiau mae pobl yn d'eud wrtha' i nad ydw i'n gallu g'neud pethau'n iawn ac mae hynny yn g'neud i mi deimlo nad ydw i'n medru eu g'neud nhw, ond wrth edrych yn ôl dwi'n sylweddoli mod i'n gallu," meddai.

Ffynhonnell y llun, Ceridwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Scott a'i fryd ar fod yn ffermwr

"Falle mod i'n dysgu 'chydig yn arafach na chi ond dwi'n dal i fedru g'neud be 'dych chi'n medru ei wneud.

"Fy mreuddwyd ers pan o'n i'n 10 oed yw bod yn ffermwr. Os na fyddai'n llwyddo i'w gwireddu yna mi fyddai'n drist. Fedra'i ddim ceisio gwneud hyn ar fy mhen fy hun. Mi fydd angen help arna'i i ddechrau, ond mae angen help ar bawb ar y dechrau."

Positif

Mae Paige Bedford, 19 oed o Fagillt ger y Fflint, yn awyddus i wneud y gorau o'i hanabledd. Mae hi ar y sbectrwm awtistig ac wedi cael diagnosis ADHD. Mae ganddi hi hefyd gyflwr vasovagal syncope sy'n arafu ei chalon gan olygu ei bod hi'n llewygu yn rheolaidd.

"Mae bod ag anabledd yn eich gwneud yn unigryw, mae'n eich gwneud yn wahanol i bobl eraill," meddai. "Mae'n gallu eich helpu yn ogystal â'ch atal chi ar adegau.

"Dwi 'di cyfarfod rhai pobl sy'n defnyddio eu hanableddau mewn ffordd bositif ac mae'n wych i weld beth maen nhw'n gallu ei gyflawni. Mae'n anabledd i yn gwneud i mi feddwl mewn ffordd wahanol i eraill. Dwi'n meddwl ar gyflymder gwahanol i bobl eraill."

Ffynhonnell y llun, Ceridwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Paige yn brysur yn pobi

Ceffylau yw diddordeb pennaf Peter Millar, 24 oed o Benbedw. Mae'n astudio yng Ngholeg Cambria yn Llaneurgain.

"Petasai'n rhaid i mi ddisgrifio fy hun mi fuaswn i'n d'eud fy mod i'n frwdfrydig ac yn gweithio'n galed," meddai. "Rwy' hefyd yn poeni am eraill.

Cyrraedd y lefelau uchaf

"Rwy'n caru ceffylau gan eu bod nhw yn gallu synhwyro os dwi'n hapus neu'n isel fy ysbryd. Yn Sheffield mae 'na Gemau Olympaidd arbennig i bobl sydd ag anawsterau dysgu. Dwi'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth farchogol sy'n golygu fy mod i'n gorfod bod yn dda mewn tair disgyblaeth, rheoli'r ceffyl, gofalu amdano a'i farchogaeth ar gwrs arbennig.

"Dwi'n credu y dylai pobl sydd ag anableddau gael y cyfle i drïo gwahanol bethau a cheisio cyrraedd y lefelau uchaf. Wedi'r cwbl, ry'n ni'n bobl o gig a gwaed fel pawb arall."

Ffynhonnell y llun, Ceridwen Hugjhes
Disgrifiad o’r llun,

Peter sydd ar garlam i ddysgu rhagor am geffylau

Ceridwen Hughes, sylfaenydd elusen Same But Different, sydd y tu ôl i'r prosiect.

"Rydyn ni wedi cynllunio'r lluniau yn ofalus er mwyn adlewyrchu'r gweithgareddau mae'r myfyrwyr yn eu mwynhau a hefyd i ddangos eu bod yn aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas," meddai.

"Mae pob un o'r oedolion sydd wedi cymryd rhan yn awyddus iawn i weithio ac mae ganddyn nhw gyfoeth o sgiliau i'w cynnig. Yn aml iawn dyw cyflogwyr ddim yn gweld y tu hwnt i'r anableddau."