Dweud wrth Leanne Wood am 'gymedroli ei hacen'
- Cyhoeddwyd
Mae Leanne Wood wedi lleisio ei anfodlonrwydd wedi iddi dderbyn neges mewn ebost oedd yn dweud wrthi am "gymedroli" ei hacen Gymreig er mwyn i bobl ei chymryd o ddifrif.
Dywedodd y neges fod acen gref Gymreig yn "gadael pobl Cymru yn agored i fod yn destun gwawd".
Mewn ymateb dywedodd Ms Wood, sy'n arweinydd Plaid Cymru ac Aelod Cynulliad dros y Rhondda, y dylai pawb sydd ddim yn hoff o'r ffordd y mae hi'n siarad dderbyn ei hacen.
Daw hyn wedi i olygydd gwleidyddol ITV, Robert Peston ddweud wrth BBC Radio Wales fod sylwadau gwrth-Gymreig yn "mynd yn waeth".
Fe wnaeth Leanne Wood gyhoeddi'r neges am ei hacen, oedd wedi ei anfon o dan y teitl 'Broad Welsh accent' ar ei thudalen Facebook. Nid ydi hi'n gwybod pwy anfonodd y neges ati.
Dywedodd Ms Wood wrth ei dilynwyr ar Facebook nad oedd hi'n fodlon "bod yn rhywbeth nad ydw i".
Daw hyn wedi i Robert Peston danio trafodaeth ar Twitter ddydd Iau am bobl oedd yn gwneud sylwadau gwrth-Gymreig.
Gofynnodd pam fod cymaint o bobl a fyddai'n casáu cael eu galw'n hiliol yn gwneud sylwadau gwrth-Gymreig cas, a bod hyn yn "digwydd trwy'r amser" ac yn rhywbeth yr oedd yn ei gasáu.
Wrth drafod y neges ar raglen Dot Davies ar BBC Radio Wales, esboniodd Mr Peston ei fod wedi bod mewn swper y noson flaenorol lle gwnaeth "dyn busnes uchel iawn wneud rhai sylwadau" am wraig yr ymgeisydd arlywyddol yn Ffrainc, Francois Fillon, sef Penelope, "ac roedd yn meddwl fod hyn yn ddoniol iawn".
Er nad oedd yn cofio'r union eiriau, roedd yn ymwneud â'i Chymreictod, meddai Mr Peston.
Ychwanegodd: "Fe nes i wylltio, achos rwy'n credu fod creu stereoteip fel hyn yn beth atgas.
"Rwy'n credu ei fod yn mynd yn waeth".
Dywedodd hefyd fod "cymaint o bobl yn gwneud sylwadau annifyr iawn sydd yn fygythiol... nid yn unig yn fygythiol ond yn gwbl anghywir."
"Mae'n dod o anwybodaeth a hefyd o fod yn annymunol."