Ceidwadwyr eisiau gorfodi pob sir i gynnig addysg yn Gymraeg a Saesneg

Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Darren Millar y dylai cynghorau "barchu hawl y rhiant i ddewis"

  • Cyhoeddwyd

Fe fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn newid y gyfraith i sicrhau bod addysg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ymhob sir yn y wlad, petawn nhw mewn grym.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Cyngor Gwynedd gyhoeddi cynlluniau i gael gwared ar ffrydiau cyfrwng Saesneg yn ysgolion uwchradd y sir.

Dywedodd Darren Millar AS, arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, y dylai'r cyngor "barchu hawl y rhiant i ddewis".

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod y polisi yn sicrhau disgyblion yn barod i "gamu'n hyderus i mewn i fyd dwyieithog".

'Angen parchu yr hawl i ddewis'

Wrth siarad ar banel yn ystod cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion, dywedodd Mr Millar ei fod yn cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg, ond dylai bod gan rieni yr hawl i ddewis.

Yng Ngwynedd, lle mae'r mwyafrif yn gallu siarad Cymraeg, mae cynlluniau i gael gwared ar addysg cyfrwng Saesneg yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd.

Maen nhw'n gobeithio gweld disgyblion yn dilyn 70% o'r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond dywedodd Mr Millar wrth BBC Cymru ei fod yn "siomedig" gyda Chyngor Gwynedd.

"Dwi'n meddwl fod angen iddyn nhw barchu hawl pobl i ddewis, i rieni ddewis, a disgyblion i ddewis i gael eu haddysgu mewn ysgol cyfrwng Saesneg," meddai.

"Buaswn i'n gwneud hynny'n orfodol i bob awdurdod lleol, neu newid y gyfraith os oes angen, er mwyn sicrhau fod hynny yn digwydd", meddai.

Adeilad Cyngor GwyneddFfynhonnell y llun, Google

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod y polisi addysg yn "rhan ganolog" o strategaeth iaith ehangach y sir, ac yn cyd-fynd gyda phrif flaenoriaeth y strategaeth o "gynnal a chryfhau'r iaith Gymraeg wrth sicrhau bod ein dysgwyr hefyd yn barod i gamu'n hyderus i mewn i fyd dwyieithog".

"Fe fydd y cyngor yn adeiladu ar y seiliau cadarn sy'n bodoli yma eisoes yn ysgolion Gwynedd, i sicrhau cysondeb o ran darpariaeth."

'Siomi athrawon, rhieni a disgyblion'

Fe ddywedodd Mr Millar hefyd y dylid cosbi prif gorff arholi Cymru, CBAC, am ei berfformiad, a chyflwyno mwy o ddewis o gyrff cymhwyso hefyd.

Cafodd CBAC ddirwy o £350,000 yn ystod yr haf ar ôl i gannoedd o ddisgyblion yn Lloegr dderbyn canlyniadau anghywir.

Mae disgwyl i holl ysgolion gwladol Cymru i ddefnyddio cymwysterau'r bwrdd, ac mae hynny'n rhywbeth "gwael" yn ôl Mr Millar.

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl y dylid rhoi sancsiwn iddyn nhw, dwi ddim yn meddwl bod yr hyn y maen nhw wedi ei wneud yn dderbyniol."

Roedd hefyd o'r farn bod y cwricwlwm newydd wedi ei gyflwyno yn rhy gyflym.

Dywedodd CBAC mai nhw ydy'r unig gorff arholi "sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymwysterau dwyieithog" i Gymru.

"Tra bod cyrff arholi eraill yn cynnig cymwysterau yng Nghymru, does neb wedi dewis cynnig TGAU sy'n cyrraedd gofynion Cymwysterau Cymru", meddai llefarydd.

Dywedodd y llefarydd bod cyhoeddiad deunyddiau wedi ei gytuno ymlaen llaw gyda Chymwysterau Cymru, a bod yr "holl feini prawf" wedi eu cyrraedd ar gyfer y cymwysterau TGAU.

Ychwanegodd bod CBAC wedi cefnogi ysgolion a cholegau gyda phecyn cymorth, a bod yr ymateb wedi bod yn "bositif dros ben".

Yn ystod y panel, fe wnaeth llefarydd y blaid ar Gymru Mims Davies AS hefyd ddweud y byddai'r Ceidwadwyr yn cyflwyno ysgolion rhydd ac academïau, fel sy'n digwydd yn Lloegr, petawn nhw'n ffurfio llywodraeth.

Ychwanegodd y byddai'n yn gwella perfformiad ac yn taclo problemau ymddygiad.