Prifysgol Caerdydd yn amddiffyn campws newydd yn Kazakhstan

Menyw gyda gwallt brown yn sefyll tu ôl i ddarllenfa sy'n dweud Prifysgol Caerdydd Kazakhstan a baneri Kazakhstan a Chymru arnoFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Wendy Larner, yn Astana ar 3 Medi ar gyfer agoriad swyddogol y campws

  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi mynnu bod campws newydd yn Kazakhstan yn cynnig cyfleoedd i'r brifysgol ac i Gymru ar ôl i undeb godi pryderon am y cynllun.

Dechreuodd ddarlithoedd i dros 300 o fyfyrwyr yn Astana - prifddinas y weriniaeth yng nghanol Asia - ddiwedd Medi.

Ond mae cangen Prifysgol Caerdydd o Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) yn dweud bod pryderon am hawliau dynol yn y wlad a'r "brys" wrth sefydlu'r campws yn peryglu enw da'r brifysgol.

Mae'n dilyn cyfnod cythryblus i Brifysgol Caerdydd ar ôl cyhoeddi toriadau sylweddol i swyddi ac adrannau ar ddechrau'r flwyddyn.

Dywedodd cangen Prifysgol Caerdydd yr UCU nad oedden nhw yn gwrthwynebu prosiectau rhyngwladol fel yr un Kazakhtsan, ond bod "pryderon sylweddol" am y cynllun yma.

"'Dan ni'n teimlo bo' nhw'n brysio gyda'r datblygiadau," meddai Siôn Llywelyn Jones, o'r undeb.

"Pa effaith fydd hynny'n ei gael ar safon yr addysg sy'n cael ei gynnig?"

Dywedodd eu bod yn poeni am yr effaith ar lwyth gwaith staff oedd yn gorfod paratoi cyrsiau ar gyfer y campws newydd ac am hawliau lleiafrifoedd, fel pobl LHTDC+, yn y wlad.

Dyn mewn cot law las a het wlan binc gyda UCU yn wyn ar flaen yr het
Disgrifiad o’r llun,

Er bod Siôn Llywelyn Jones o undeb yr UCU yn croesawi "arbed swyddi aelodau" yn sgil y cynllun, mae ganddo "bryderon sylweddol"

Wrth sefydlu'r campws, fe fydd staff o Gaerdydd yn teithio'r 3,000 milltir i Kazakhstan am ychydig wythnosau ar y tro.

"'Dan ni hefyd yn poeni am yr effaith amgylcheddol – pobl yn teithio ar awyren nôl a 'mlaen i Kazakhstan," ychwanegodd Dr Jones.

Prosiect Kazakhstan wedi 'helpu i arbed swyddi'

Agorodd y safle lai na blwyddyn ar ôl i'r brifysgol arwyddo memorandwm gyda llywodraeth Kazakhstan i sefydlu eu campws cyntaf dramor.

Dywedodd Anne Morgan, Cyfarwyddwr Gweithgareddau Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd fod "risgiau ynghlwm ag unrhyw brosiect mawr rhyngwladol" ond bod y safonau dysgu yn cael eu rheoli yng Nghaerdydd a'r risg ariannol yn fach.

Nododd fod agweddau cyffredin rhwng Cymru a Kazakhstan gan gynnwys "balchder yn eu diwylliant, eu hanes, eu hunaniaeth cenedlaethol a'u hiaith".

"Mae'r prosiect yn Kazakhtsan wedi helpu i arbed swyddi yng Nghaerdydd," meddai.

"Mae pobl yn gwirfoddoli i ddod mas 'ma i ddysgu. Ni wedi dechrau gyda phedwar cwrs blwyddyn hyn, a ni'n gobeithio ehangu dros y blynyddoedd nesa.

"Mae'r prosesau wedi bod yn drylwyr. Ni wedi cael cyngor arbenigwyr, cyngor cyfreithiol a chyngor ariannol cyn bo' ni'n dod a sefydlu'r prosiect a'r campws yma yn Kazakhstan."

Menyw gyda gwallt golau byr, ffrog ddu a gwyn a siaced ddu yn eistedd tu ol i ddesg gyda baneri Cymru a Kazakhstan tu ôl iddiFfynhonnell y llun, Anne Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anne Morgan ei bod wedi bod yn teithio i Kazakhstan am dros 15 mlynedd ac wedi gweld newid

Mae cynlluniau addysg trawswladol yn rhan o strategaeth y brifysgol wrth ymateb i fwlch ariannol a'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg uwch wrth i lai o fyfyrwyr rhyngwladol astudio yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Ms Morgan fod addysg yn bwysig iawn yn Kazakhstan, gan gydnabod bod hawliau dynol wedi bod yn bryder yno.

"Yn sicr, yn y gorffennol mae 'na broblemau wedi bod ac mae Kazakhstan yn wlad sydd yn ceisio newid," esboniodd.

"Wrth i ni ddod ag addysg o Gaerdydd i Astana byddwn ni'n dod a syniadau a phrofiadau newydd i fyfyrwyr a gobeithio bydd hynny'n arwain at drafodaeth a syniadau ac agweddau newydd efallai."

Dyn ifanc gyda gwallt byr tywyll, sbectol ac yn gwisgo cardigan las a bag ar ei gefn yn sefyll o flaen adeilad.Ffynhonnell y llun, Madison Hutchinson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Asset yn gwybod "ychydig bach" am Gymru cyn dechrau astudio ym Mhrifysgol Caerdydd Kazakhstan

Un o'r 320 o fyfyrwyr sy'n dechrau cwrs sylfaen, cyn astudio gradd busnes, yw Asset, 17.

Dywedodd fod Prifysgol Cymru Kazakhstan yn apelio oherwydd roedd e'n awyddus i astudio yn y brifddinas, Astana, a chael blas o addysg y Deyrnas Unedig.

"Ers pan roeddwn i'n blentyn, roeddwn i wir â diddordeb yn niwylliant Prydain, felly mae Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i fi brofi hynny cyn mynd i astudio dramor - efallai yn y DU am radd meistr", meddai.

'Cyfleoedd di-ri ond risgiau hefyd'

Dywedodd undeb yr UCU fod problemau hanesyddol Prifysgol Cymru yn sgil cysylltiadau rhyngwladol yn dangos pwysigrwydd sicrhau bod prosesau yn drylwyr.

Yn ôl Dewi Knight, cyfarwyddwr corff ymchwil PolicyWISE a chyn-ymgynghorydd arbenigol i Lywodraeth Cymru, mae cynlluniau addysg trawswladol yn fwyfwy cyffredin ac yn cynnig "cyfleoedd di-ri" ond risgiau hefyd.

"Ry' ni gyd yn gwybod am sefyllfa ariannol (Prifysgol) Caerdydd a dwi'n siŵr bod hynny'n ffactor mawr yn y penderfyniadau," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn sicr y byddai Prifysgol Caerdydd a phrifysgolion eraill yn ystyried ffactorau ariannol, addysgiadol a moesol wrth ehangu darpariaeth trawswladol.

Dywedodd hefyd fod angen ystyried hynny er mwyn diogelu "enw da'r brifysgol ac enw da Cymru a'r sector".

Mae gan nifer o brifysgolion eraill Cymru bartneriaethau rhyngwladol sy'n cynnwys campws Prifysgol Bangor yn Tseina a chytundeb Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda Lanzhou University College Wales yn Tseina ac International Universiti Malaya-Wales yn Kuala Lumpur.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.