Adweithydd niwclear bychan yn creu hyd at 600 o swyddi?
- Cyhoeddwyd
Fe allai hyd at 600 o swyddi gael eu creu yn ardal Trawsfynydd yn y dyfodol - yn ôl Cadeirydd Parth Menter Eryri.
Mae John Idris Jones yn gweld cyfle i leoli adweithydd niwclear bychan newydd ar safle'r hen orsaf Magnox.
Fe fydd Mr Jones yn siarad am y dechnoleg arloesol mewn cynhadledd yn Llundain ddydd Llun.
Dywedodd wrth Newyddion 9: "Dwi'n gobeithio y bydd Trawsfynydd yn un o'r prif safleoedd ar gyfer adweithydd o'r math yma.
"Mae gennym yr adnoddau angenrheidiol, y llyn ar gyfer oeri dŵr a hefyd cysylltiadau gyda'r grid cenedlaethol.
"Mae gennym yn ogystal dasglu sydd â gwybodaeth yn y maes.
"Petai'r adweithydd 300 megawat yn cael ei godi mi fyddai hynna'n arwain at greu 300 o swyddi.
"Mi fyddai hefyd 300 o swyddi eraill cysylltiedig â'r adweithydd yn dod i'r ardal."
Mi all yr adweithyddion gael eu gwneud mewn ffatrïoedd ac yn ôl arbenigwyr mi allant greu cymaint o bŵer â'r hen adweithyddion a oedd yn cael eu hadeiladu hanner can mlynedd yn ôl.
Amheuon
Ond mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear o'r farn nad yw'r dechnoleg yma wedi ei phrofi.
Maent yn credu bod safleoedd fel Trawsfynydd yn cael eu cynnig am fod y boblogaeth yn isel.
Mae disgwyl i'r gynhadledd yn Llundain drafod dyfodol gorsafoedd niwclear.
Mae rhai yn credu mai'r adweithyddion niwlear bychain yw'r dyfodol.
Mae cwmni Nuscale yn gobeithio adeiladu adweithydd niwclear bychan yn yr Unol Daleithiau yn ystod y tair blynedd nesaf ond mae'n bosib na fydd adweithydd o'r fath yn weithredol ym Mhrydain tan 2030.
Deallir bod llywodraeth San Steffan wedi gwahodd cwmnïau gan gynnwys Rolls Royce i gyflwyno cynlluniau ar gyfer adweithyddion bychain.
Mae disgwyl i fwy o wybodaeth gael ei chyflwyno yn ddiweddarach yn y flwyddyn.