Galw am gyhoeddi canfyddiadau achos disgyblu meddyg

  • Cyhoeddwyd
Ellie MayFfynhonnell y llun, ATHENA PICTURES
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ellie-May Clark yn diodde' o asthma difrifol pan wrthododd Dr Joanne Rowe ei gweld gan ei bod yn hwyr i apwyntiad

Mae galwadau i gyhoeddi canfyddiadau panel disgyblu yn achos meddyg teulu wnaeth wrthod gweld merch ifanc fu farw'n ddiweddarach, a hynny am ei bod yn hwyr i'w apwyntiad.

Bu farw Ellie-May Clark, oedd yn bump oed ac o Gasnewydd, wedi iddi ddioddef pwl difrifol o'r fogfa (asthma) ym mis Ionawr 2015.

Roedd y meddyg, Dr Joanne Rowe, wedi dweud wrth y ferch a'i mam i ddod yn ôl i'r feddygfa'r bore wedyn.

Cafodd y meddyg waharddiad chwe mis gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, a nawr mae cyn-lywydd y mudiad wedi galw am fwy o "dryloywder".

Mae teulu Ellie-May Clark wedi galw am ymchwiliad troseddol ac i dynnu enw Dr Rowe oddi ar y gofrestr meddygon.

'Anfoddhaol'

Yn ôl cyn-lywydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Syr Donald Irvine, mae nifer o achosion disgyblu wedi'u cynnal tu ôl i ddrysau caeedig yn ddiweddar.

"Pan fo gwrandawiadau'n breifat, mae'n rhaid i'r cyngor ofalu eu bod yn rhoi rhesymau da iawn ac yn cyhoeddi rhesymau da am eu penderfyniad", meddai Syr Donald wrth Radio Wales.

Dywedodd ei fod yn credu y dylai canfyddiadau'r ymchwiliad yn achos Ellie-May Clark fod wedi cael eu cyhoeddi.

"Dwi'n credu mewn tryloywder," ychwanegodd. "Mae hwn yn gofnod cyhoeddus a dwi'n credu bod gan berthnasau a chleifion hawl i ddeall yn iawn pam fo'r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi dod i'r penderfyniad hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Joanne Rowe wedi cael swydd mewn meddygfa arall wedi ei gwaharddiad chwe mis

"Os oes 'na gosb, a'i bod yn ymddangos allan o nunlle a heb esboniad pam mai hon yw'r gosb addas, mae'n anfoddhaol iawn".

Mae'r cyngor wedi ymddiheuro i'r teulu, gan ddweud eu bod yn ceisio rhoi gwybodaeth lawn i gleifion a theuluoedd am ymchwiliadau.

Dywedodd llefarydd eu bod yn arolygu eu rheolau ynglŷn â rhoi gwybodaeth i gleifion a'u teuluoedd mewn achosion o'r fath.

Ar hyn o bryd pe bai pryderon yn cael eu codi gan y Bwrdd Iechyd, yna'r unig reidrwydd yw i adrodd unrhyw ganlyniadau i'r corff wnaeth godi'r gwyno, ac nid y teulu.

Yna mater i'r Bwrdd Iechyd yw hi i drosglwyddo unrhyw ganfyddiadau i'r teulu neu'r claf.

Dydd Sul, dywedodd y teulu eu bod am weld ymchwiliad gan fod Dr Rowe - sydd bellach yn gweithio mewn meddygfa arall - wedi "cael symud i swydd newydd ac wedi cael parhau gyda'i bywyd fel bod dim byd wedi digwydd".

Mae disgwyl i gwest i farwolaeth Ellie-May Clark gael ei gynnal maes o law.