Cyhoeddi adroddiad ar gwricwlwm newydd i ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
disgybl

Bydd adroddiad sy'n edrych ar y newidiadau sydd wedi eu cyflwyno ym maes addysg yng Nghymru, gan gynnwys y cwricwlwm newydd, yn cyhoeddi'r canlyniadau ddydd Mawrth.

Roedd yr ysgrifennydd addysg Kirsty Williams wedi gofyn i gorff OECD, sy'n cynhyrchu canlyniadau rhyngwladol PISA, i werthuso'r newidiadau.

Bydd llythrennedd, rhifedd a gallu digidol yn ffurfio craidd y maes llafur newydd.

Mae disgwyl i'r cwricwlwm gael ei gyflwyno erbyn 2021.

Disgrifiad,

Profion PISA: Sut siâp oedd ar addysg yng Nghymru yn 2016?

Bydd gan ysgolion y rhyddid i addysgu o gwmpas maes llafur canolog, fydd yn cynnwys y meysydd traddodiadol fel ieithoedd a'r celfyddydau, yn ogystal â rhai newydd fel iechyd a lles.

Fe fydd y pedwar cyfnod allweddol addysgol yn newid gydag asesiadau cynnydd disgyblion yn digwydd pan yn bump, wyth, 11, 14 ac 16 oed.

Mae dros 150 o ysgolion yn dechrau peilota'r ffordd newydd o ddysgu.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi am 09:00 ddydd Mawrth mewn cynhadledd i benaethiaid ysgolion yng Nghaerdydd.